Hepgor gwe-lywio

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad Mis Mehefin

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad - Mis Mehefin

 

Ceirw Hydd BrithMae'n fis prysur iawn ym Mharc Gwledig Margam.

Dyma'r mis pan fydd ein hyddod brith a'n ceirw cochion yn rhoi genedigaeth. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu geni o ail wythnos Mehefin ymlaen.

Mae gan yr hyddod brith gyfnod beichiogrwydd hir o tua saith mis a hanner. Fel arfer maent yn cynhyrchu un elain (hydd brith) neu lo (coch), anaml maent yn cael gefeilliaid.

Yn aml mae ewigod (hyddod brith benyw) sydd wedi rhoi genedigaeth i'w gweld yn aml ar wahân i'r prif yr. Mae'n debyg eu bod am ddod o hyd i le diogel i roi genedigaeth. Gall eu rhai bach gael eu geni ymhlith gwair, hesg, rhedyn, danadl neu hyd yn oed ar dorllwythi dail noeth.

Yn syth ar ôl iddi gael ei eni mae'r fam yn llyfu'r elain yn drylwyr. Yn ogystal ag ymolchi'r elain mae hyn yn dechrau sefydlu'r berthynas gref rhwng y fam a'r un bach.

Mae elanedd yn gallu sefyll, er braidd yn sigledig, o fewn munudau o gael eu geni, a byddant yn sugno wrth y deth am y tro cyntaf o fewn awr. Yna byddant yn gorffwys yn agos i’w man geni am sawl awr – yn wir bydd yn treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd cynnar yn gorffwys! Mae ei gôt frith yn guddliw ardderchog. Bydd yr ewig yn dychwelyd at yr elain tua unwaith bob 4 awr er mwyn iddi sugno wrth y deth.

Ar ôl tua wythnos bydd yr elanedd yn awyddus i ddilyn eu mamau er y byddant yn dal i dreulio llawer o amser yn gorffwys.

Erbyn canol Gorffennaf bydd ewigod ac elanedd yn casglu mewn grwpiau bach. Erbyn canol Awst pan fydd yr elanedd tua 2 fis oed, gallwch eu gweld yn chwarae gyda’i gilydd. Mae’r elanedd, fel anifeiliaid eraill, yn chwareus iawn ac maent yn neidio ac yn rhuthro o amgylch. Byddwch yn cael llawer o hwyl yn eu gwylio!!

Os ydych yn dod ar draws carw ifanc yn y parc neu y tu allan i’r parc peidiwch â’i gyffwrdd, efallai na fyddwch yn gallu gweld ei fam ond ni fydd hi’n bell i ffwrdd.

Mae Mehefin yn fis da ar gyfer gwyfynod.

Mae gwyfynod yn weithgar pan fydd hi’n dechrau nosi yn ystod nosweithiau cynnes yr haf.

Mae nifer ohonynt yn hedfan i mewn i’n cartrefi neu gynteddau ar ôl cael eu denu gan y goleuadau. Mae rhai ohonynt yn lliwgar iawn.

Cadwch lygad am y rhain.

Dyma’r Y ARIAN.

Dyma’r Y ARIAN.

Mae’n ymwelydd cyffredin yn ystod y mis hwn. Gallwch ei adnabod gan y siâp ‘y’ arian clir ar ei adenydd.

EFYDD GLOYW

Mae’r EFYDD GLOYW yn wyfyn cyffredin mewn gerddi, meysydd a thir diffaith. Mae lliw efydd metelaidd ar ei adenydd.

GWYFYN Y CYSGOD

Gwyfyn eithaf mawr yw GWYFYN Y CYSGOD sy’n gyffredin mewn coedwigoedd, parciau a gerddi. Gallwch ei weld yn gorffwys ar ffensys a dail yn ystod y dydd.

Mae sawl rhywogaeth wahanol o wyfynod i’w gweld. Cadwch lygad amdanynt!!!!

© Parc Gwledig Margam