Hepgor gwe-lywio

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad Mis Ebrill

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad - Mis Ebrill

Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd! Mae'r llystyfiant yn newid o frown a llwyd y gaeaf i wyrdd iraidd.

Y Ddraenen Wen yw'r goeden gyffredin gyntaf i flaguro'n llawn. Ond, mae'n cael ei churo o ran blodeuo gan y Ddraenen Ddu (eirin surion bach) sydd fel arfer yn blodeuo ar ddiwedd Mawrth, dechrau Ebrill.

Blodau pinc y Blodyn LlefrithCadwch lygad am y Blodyn Llefrith. Gallwch weld ei flodau pinc yn ardaloedd gwlyb a glaswelltog y gors, yn enwedig yn y parc ceirw. Dyma blanhigyn larfaol glöynnod blaen oren. Yn ystod y bythefnos gynnes ar ddiwedd Mawrth dechreuodd nifer o löynnod ymddangos o'u gaeafgwsg. Gwelwyd sawl iâr fach lygadog a mantell goch.

Gwennol yn gorffwys ar ôl ei hymfudiad hirRydym yn aros i adar ymfudol y gwanwyn gyrraedd. Maent wedi treulio'r gaeaf mewn rhannau cynhesach y byd. Piod bach a drywod gwynion yw'r cyntaf i gyrraedd, mae'r ddau aderyn yma'n edrych yn debyg iawn ond mae eu caneuon yn wahanol iawn.

Bydd y wennol gyntaf, gobeithio, yn cyrraedd yn ystod wythnos gyntaf Ebrill, y llynedd gwelwyd un ar 8fed Ebrill. Rhowch wybod i un o'r Ceidwaid os ydych yn gweld un.

Mae'n adeg brysur i adar sy'n nythu. Mae adar duon a bronfreithod yn dodwy eu nythaid cyntaf o wyau mewn prysgoed isel.

Eleni mae gennym gysylltiad teledu â bocs adar sydd â chamera bach ynddo. Rydym yn gobeithio gwylio beth sy'n digwydd mewn nyth.

Nid yw'r bocs wedi cael unrhyw ymwelwyr hyd yn hyn…rydym yn byw mewn gobaith!!

Cyn gynted â'n bod yn cael llwyddiant bydd y cysylltiad teledu yn y siop i chi ei wylio.

Carw Pere David ifancMae ceirw Pere David yn dod â'u lloi ar hyn o bryd. Gobeithiwn gael hyd at 10 ychwanegiad newydd eleni! Ym mis Ebrill mae bychod yr hyddod brith a'r ceirw coch yn diosg eu cyrn. Bob blwyddyn maent yn tyfu set mwy o faint a mwy trawiadol. Nid yw'r cyrn yn diosg yr un pryd bob amser, mae'n bosib i un ddiosg a'r llall ddilyn sawl diwrnod yn ddiweddarach. Dyna pam y gallech weld carw gydag un corn yn unig!

Mae cenawon llwynogod a moch daear yn barod i ymddangos o'u cartrefi pan fydd yn nosi. Maent yn treulio amser yn archwilio ac yn chwarae gyda'u cydgenawod.

Melynwellt Anthoxanthum odoratum, sydd ag arogl hyfryd porfa newydd ei thorri pan fydd wedi'i falu ac sy'n gwneud gwair peraroglus iawn, yw un o'r gwellt glas cyntaf i flodeuo yn y gwanwyn. Os ydych yn edrych yn ofalus, byddwch yn sylwi bod sbrigyn y blodyn yn newid rhyw yn ystod ei ddatblygiad. Mae stigmâu gwyn, pluog (benyw) yn ymddangos yn gyntaf, wedyn briger porffor sy'n hongian (gwryw) ar ôl i'r stigmâu wywo. Mae'r mecanwaith hwn, o'r enw protogynedd, yn hybu croesbeillio rhwng planhigion, yn hytrach na hunanbeillio.

Mae Pryfed St Marc, Bibio marci, yn ymgasglu yn eu grwpiau dawnsio crog mewn bylchau heulog cysgodol ym mherthi'r ddraenen wen. Mae'r gwrywod yn hedfan i fyny ac i lawr oddeutu Diwrnod St Marc, 25ain Ebrill. Mae'r cyfnodau ifanc yn byw yn y pridd neu ymhlith llystyfiant sy'n pydru. Cadwch lygad am y pryfed arbennig hyn.

Lawr yn y gerddi….

Ebrill yw adeg y Llwybr Ceirios. Dyna olygfa hynod drawiadol. Mae'r coed yn blodeuo gyda blodau pinc bach.

Dewch â'ch camerâu i dynnu llun!!

© Parc Gwledig Margam