Hepgor gwe-lywio

Dyddiadur Wardeniaid

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad
Ionawr Beth sydd o gwmpas ym mis Ionawr?
Mae'r ymgyrch i oroesi yn codi gêr wrth i fwyd ddod yn brinach ac yn anos ei ganfod. Gydag ond ychydig o ddail i'w gweld mae'r dirwedd sy'n ymddangos yn ddiffrwyth, yn gallu eich synnu ag arwyddion o fywyd.
Chwefror Beth sydd o gwmpas ym mis Chwefror?
Pan fydd yr haul yn gwenu, gallech dybio bod y gwanwyn wedi cyrraedd, ond gall gilio yr un mor gyflym. Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf mae tywydd gwaethaf y gaeaf wedi dod yn ystod mis Chwefror
Mawrth Er bod gan y gaeaf frathiad terfynol, rydym bellach yn gadael misoedd mwyaf diflas y flwyddyn
Mae blodau'r gwanwyn yn agor ac mae ieir bach yr haf yn ymddangos o'u gaeafgwsg. Gwrandewch am y teloriaid cyntaf, bwrlwm cyfoethog y telor pen-ddu neu gân ddigamsyniol y siff-saff. O'r diwedd, dyma ddechrau blwyddyn newydd naturiaethwr.
Ebrill Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd! Mae'r llystyfiant yn newid o frown a llwyd y gaeaf i wyrdd iraidd.
Y Ddraenen Wen yw'r goeden gyffredin gyntaf i ddeilio'n llawn. Ond, y Ddraenen Ddu yw'r cyntaf i flodeuo, ac mae hynny'n digwydd fel arfer ar ddiwedd mis Mawrth, dechrau mis Ebrill.
Mai Mae'n fis prysur iawn yng nghefn gwlad.
Mae seiniau'r haf yn araf newid i rai'r hydref. Gall fod yn fis gwerth chweil i wylio bywyd gwyllt gyda llawer o bethau'n digwydd cyn i nosweithiau tywyll y gaeaf gychwyn.
Mehefin Mae'n fis prysur iawn ym Mharc Gwledig Margam
Dyma'r mis pan fydd ein hyddod brith a'n ceirw cochion yn rhoi genedigaeth. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu geni o ail wythnos Mehefin ymlaen.
Gorffennaf Ganol dydd yng nghanol yr haf, a braidd dim awel yn ysgwyd y gwair.
Ychydig iawn sy'n symud yng nghefn gwlad wrth i'r haul gynhesu popeth, a'r adeg gorau i wylio bywyd gwyllt yw'n gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y dydd, pan fydd y gwlith ar y gwair o hyd, yr aer yn ffres a llai o bobl o gwmpas y lle
.
Medi Mis anesmwyth braidd yw mis Medi.
Mae seiniau'r haf yn araf newid i rai'r hydref. Gall fod yn fis gwerth chweil i wylio bywyd gwyllt gyda llawer o bethau'n digwydd cyn i nosweithiau tywyll y gaeaf gychwyn.
Hydref Mae'r amser yn dod i chi wisgo’ch dillad gaeaf cynnes
Cyn bo hir, daw'r rhew i drawsffurfio cefn gwlad, bydd niferoedd y pryfed yn lleihau'n sylweddol a bydd y dail yn chwyrlïo i'r llawr a'r gwynt yn eu sgubo'n bentyrrau.
Y mis hwn yw mis y concyrs!!!
Wrth gasglu concyrs, cofiwch gymryd ychydig yn unig. Mae ffrwythau'r cynhaeaf megis cnau castanwydden y meirch neu'r concyrs, a'r gastanwydden bêr yn darparu bwyd sy'n hanfodol i'r ceirw yn ystod y mis hwn.
Gwalchwyfyn y Benglog
Daethpwyd o hyd i Walchwyfyn y Benglog, Acherontia atropos, yn y parc ar 3 Hydref. Cryn syndod, gan iddo ymddangos y tu mewn i'r Orendy!!!
Tachwedd Mis y Madarch
Mae’r coedydd a’r glaswelltiroedd yn llawn madarch, bwyd y boda a ffyngau eraill o bob maint, lliw a llun.
Cofiwch wirio'ch coelcerth am ddraenogod cyn ei chynnau ar gyfer noson Guto Ffowc.
Neu gwell fyth, peidiwch â chynnau tân ar y safle lle pentyrrwyd deunydd, ond symudwch y deunydd i safle'r tân cyn i chi ei chynnau.
Rhagfyr Gall mis Rhagfyr fod yn fis gwlyb, ond beth am wisgo'ch esgidiau glaw, gan nad oes dim byd yn well yng nghyfnod gormodedd y Nadolig na mynd am dro yn y parc ym mis Rhagfyr.
Mae gweld heidiau o linosod yn bwydo, llwydrew yn oedi yng nghysgodion y coetiroedd a lliwiau gwan prynhawn o Ragfyr yn gyferbyniad llonydd a thawel i dinsel a phapur lapio.
© Parc Gwledig Margam