Hepgor gwe-lywio

Yr Orendy

Yr Orendy

Yr Orendy

Margam Country Park

Hanes a dyluniad

Adeiladwyd yr Orendy ym Margam rhwng 1787 a 1793 yn gartref i gasgliad mawr o goed oren, lemwn a sitron a etifeddwyd gan Thomas Mansel Talbot ynghyd â Stad Margam a Thy Margam sydd nawr wedi diflannu oddi wrth ei gyndeidiau Mansel. Mae'n adeilad cofrestredig Gradd 1 ac mae'n un o'r adeiladau clasurol gorau yng Nghymru.

Mae'r Orendy yn ganolbwynt dramatig a godidog i'r Gerddi.

Fe'i dyluniwyd yn 1787 gan Anthony Keck, mae o gyfansoddiad clasurol rheolaidd, wedi'i addurno'n hyfryd mewn ymddangosiad ac yn hynod o weithredol yn ei ddyluniad. Mae'n gorwedd o'r dwyrain i'r gorllewin ac mae'n 327 troedfedd o hyd, dyma'r Orendy hiraf ym Mhrydain.

Fe'i adeiladwyd am gost o £16,000, gyda cherrig tywod Pîl lleol, a charreg Sutton o'r cyn blasty ar gyfer y cefn. Defnyddiwyd crefftwyr arbenigol ond darparwyd y rhan fwyaf o'r llafur gan y stad.

Goleuir prif gorff yr Orendy gan saith ar hugain o ffenestri tal pengrwn wedi'u hamgylchynu gan gerrig gerwino a gerfiwyd yn ddwfn ac yn droellog sy'n wrthgyferbyniad i'r garreg lefn uwchben a'r pafiliynau ar y pen. Mae'r pum prif ffenestr ganolog yn sefyll ymlaen ychydig o'r prif adeilad. Ceir Pafiliwn pediment o waith cerrig wyneb llyfn yn gorffen yr adeilad hir ar y ddau ben yn llwyddiannus, y naill a'r llall â ffenestr Fenisaidd gyda thri golau ar y wyneb deheuol a'r drws Fenisaidd ar y pen. Roedd cefn yr adeilad yn blaen ac eithrio'r drysau dwbl ar gyfer cario coed i mewn ac allan.

Mae prif gorff yr Orendy, lle bu'r coed yn treulio misoedd y gaeaf, yn 275 troedfedd mewn hyd. Mae'r adeilad yn gul, dim ond 30 troedfedd o led, felly gall golau'r ffenestri tal gyrraedd y tu mewn i gyd. Roedd yr Orendy'n cael ei wresogi gan dân glo gyda simneau ar y wal gefn.

O fis Mai tan fis Hydref, roedd y planhigion yn cael eu cludo allan drwy'r fynedfa gefn uchel a'u gosod o amgylch y ffynnon yn yr ardd.

Roedd y pafiliwn gorllewinol, neu'r Llyfrgell, wedi'i addurno'n foethus, y lle tân o farmor a'r waliau wedi'u haddurno gyda gwaith plastr moethus. Roedd y pafiliwn dwyreiniol yn gartref i gerfluniau marmor a phenddelwau. O'r casgliad gwreiddiol, dim ond un darn sy'n weddill yn yr Orendy heddiw, sef cerflun enfawr o'r Ymerawdwr Rhufeinig Lucius Verus.

Adeiladu'r Orendy

Yn 1786, dechreuwyd ar y gwaith yn chwarel Thomas Mansel Talbot ym Mhîl, gan godi a gweithio'r garreg a oedd i'w defnyddio i adeiladu'r Orendy.

Erbyn Gwanwyn 1787, roedd y paratoadau ar droed ym Margam lle bu gweithwyr yn cloddio'r sylfeini gyda'r gwaith yn parhau yn ddidostur wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis. Yn ystod Gwanwyn 1788 gosodwyd fframiau'r ffenestri yn eu lle ac erbyn mis Medi roedd y teilwyr yn gosod y llechi ar y to ac roedd y plwm wedi cyrraedd ar gyfer y peipiau a'r cafnau; roedd y ffenestri'n cael eu paentio ac roedd y plastrwr yn gweithio ar y cerfio a'r plastro.

Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd y sgaffaldiau'n cael eu tynnu lawr.

Yn Ionawr 1789, roedd y brics wedi cyrraedd ar gyfer y llefydd tân a'r ffliwiau ar gyfer y waliau cefn ac erbyn Gwanwyn 1789 roedd cam olaf yr adeiladu wedi'i gyflawni, roedd y waliau wedi'u plastro ac yn ystod misoedd yr haf, cyrhaeddodd y gwydr ar gyfer y ffenestri ac yna cawsant eu paentio.

Erbyn dechrau 1790 gosodwyd cloeon ar y drysau ac er nad oedd y lle tân marmor wedi'i osod tan 1793, roedd yr Orendy bron wedi'i gwblhau yn 1790.

Wrth i'r Orendy ddatblygu, dymchwelwyd hen Dy Margam a oedd yn sefyll yn union y tu ôl iddo. Nododd teithiwr a ymwelodd â Margam yn 1796 y dymchweliad diweddar, oherwydd gellid gweld eglwys yr abaty, gweddillion y Ty Siapter a'r Ysbyty gan wella lleoliad yr Orendy newydd.

Dynion a Deunyddiau

Wrth adeiladu Orendy Margam, cafwyd y penderfyniad cychwynnol, y safle a'r cyfoeth angenrheidiol gan Thomas Mansel Talbot. Gwaith Anthony Keck o Swydd Gaerloyw oedd y dyluniad. William Gubbins oedd y prif saer maen a oruchwyliodd godi'r garreg yn y chwarel a goruchwylio datblygiad yr adeilad a'r seiri maen a oedd yn gweithio iddo. Ni wyddys beth oedd eu henwau na'r nifer a weithiodd i gerfio saith cant o flociau'n gywrain a gwisgo'r ashlar wyneb llyfn.

Mae'r gweithwyr a gludodd ac a balodd yn parhau'n anhysbys, cawsant eu goruchwylio gan John Snook, y garddwr a ddaeth o Wiltshire i drin gerddi Margam. Roedd Edward Lewis a William Evan yn seiri; John Jenkins yn gof; roedd Issac Thomas yn rhannu turnau, William Harry yn cyflenwi calch a Rees Howell yn dod o hyd i flew anifeiliaid i'w gymysgu yn y plastr. Y crefftwyr arbenigol oedd John Whitcom y teilwr a James Millard y plastrwr. Daeth ei gynorthwywyr Thomas Hale a Samuel Kemish o Loegr.

Cafwyd y rhan fwyaf o'r deunyddiau'n lleol ond roedd yn rhaid i bren trwm, plwm ar gyfer castio, llechu to a gwydr y ffenestri gael eu mewnforio o Fryste a Chaerloyw i borthladdoedd bach Newton, Aberafan a Chastell-nedd mewn slwpiau fel y Nancy, dan reolaeth ei meistr George Morgan.

Cadwyd cofnodion treuliau manwl gan stiward y stad, Hopkin Llewellyn. Nid yw'r cyfrif sy'n bodoli'n gyflawn ond mae'n nodi bod rhyw £1,600 wedi'i wario. Nid yw'r swm yn cynnwys yr asedau cudd yr oedd y stad yn eu darparu fel pren, tywod, pridd, carreg a'r gweithlu lleol a oedd yn angenrheidiol i gwblhau adeiladu'r Orendy.

Yr Orendy yn ystod y blynyddoedd diweddaraf

Parhaodd y diddordeb mewn tyfu coed oren am nifer o ddegawdau ar ôl adeiladu'r Orendy. Yn ystod y 19eg Ganrif, cyflwynwyd planhigion newydd i Ewrop ar gyfer tai poeth a garddio ac wrth i goed a llwyni prin gael eu plannu, daeth Parc Margam yn fwy enwog am y sbesimenau newydd hyn yn hytrach nag am y casgliadau hanesyddol o goed sitrws.

Cynhaliwyd y casgliad o goed oren ym Margam hyd nes i'r ail ryfel byd ddechrau pan feddiannwyd yr Orendy at ddefnydd milwrol a chafodd ei ddefnyddio gan Luoedd America. Roedd yn rhaid gadael y coed tu allan ac ni wnaethant oroesi'r tywydd garw.

Ar ddiwedd y rhyfel, plannwyd casgliad newydd o goed sitrws ym Margam gan ddefnyddio'r casgliad hwn fel cnewyllyn, parhaodd y perchnogion presennol i gynyddu'r casgliad o goed sitrws amrywiol drwy eu hamaethu a gellir gweld y sbesimenau hyn heddiw yn yr Orendy.

Ar ôl dwy ganrif, roedd angen atgyweirio sylweddol ar yr adeilad. Byddai atgyweirio'r Orendy cyfan yn ôl i'w bwrpas gwreiddiol wedi bod yn ddelfrydol, ond mae amodau cymdeithasol ac economaidd wedi newid. Atgyweiriwyd rhan o'r adeilad i ateb ei swyddogaeth yn y 18fed ganrif a gwnaed rhai ychwanegiadau mor anhrawiadol â phosib er mwyn galluogi'r Orendy i gael y defnydd mwyaf fel ystafell gyngerdd, canolfan gynadledda neu neuadd wledda.

Agorwyd yr Orendy adferedig gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn ystod ei hymweliad Jiwbilî Arian ym mis Mehefin 1977. Yn y modd hwn, daeth adeilad addurniadol y 18fed ganrif i Barc Margam yr ugeinfed ganrif ac mae'n parhau i gael ei ddefnyddio yn yr unfed ganrif ar hugain fel lleoliad urddasol ar gyfer cynnal amrywiaeth o weithgareddau.

© Parc Gwledig Margam