Hepgor gwe-lywio

Rheilffordd Gul

Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a chymerwch y golygfeydd ysblennydd o Drên Parc Margam.

Bydd y llwybr yn mynd â chi drwy dirwedd hanesyddol hardd Parc Gwledig Margam. Mwynhewch olygfeydd godidog wrth ymyl Pwll Newydd wrth i’r trac redeg dros y morglawdd, a mwynhewch y golygfa ar draws y llyn tuag at y Castell pell a’r terasau wrth i chi fynd tuag at orsaf y castell.

Mae ‘Trên Margam’ yn locomotif pŵer diesel ac yn rhedeg ar reilffordd â mesuriad o 24". Mae ganddo dair cerbyd caeedig, pob un yn dal 24 o bobl, ac mae cyfleusterau i gadeiriau olwyn fynd ar y trên.

Lleoliadau gorsafoedd y trên: Gorsaf maes parcio, ger caban mynediad y maes parcio. Gorsaf y Castell, ger Cwrt y Castell.

Amseroedd gweithredu’r trên: Yn gweithredu yn ystod Tymor y Gwanwyn a’r Haf ar benwythnosau, gwyliau banc ac yn ystod gwyliau ysgol. Ar gau yn ystod Tymor yr Hydref a’r Gaeaf. Gwiriwch ymlaen llaw am fanylion.

Sylwch: mewn tywydd gwael ac yn ystod cyfnodau tawel, gall amserlen y trên newid neu gall y gwasanaeth gael ei ganslo.

Prisiau’r trên: Oedolyn: £3.40, Plentyn / Pensiynwr: £1.80 (Mae plant o dan dair oed yn teithio am ddim). Mae pob tocyn yn ddilys ar gyfer un daith unffordd yn unig. Sylwch: Dim ond taliadau cerdyn sy’n cael eu derbyn ar y trên, ond mae taliadau arian parod a cherdyn yn cael eu derbyn yn y Caban Mynediad a’r Siop Anrhegion.

© Parc Gwledig Margam