Chwilio am y lle perffaith i gynnal barbeciw? Mae gan Barc Gwledig Margam safle barbeciw eang, wedi'i leoli'n gyfleus yng nghefn Castell Margam. Gyda dau hambwrdd barbeciw mawr a griliau ar gael, gallwch fwynhau cyfarfod awyr agored gwych gyda theulu a ffrindiau.
Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol. Os hoffech archebu safle'r BBQ, cysylltwch â Swyddfa'r Parc yn ystod ein horiau swyddfa. Darllenwch y canllawiau a'r rheoliadau isod cyn gwneud eich archeb.
Ffioedd
Safleoedd Barbeciw: £43
Canllawiau a Rheoliadau
- I osgoi cael siom, archebwch eich safle barbeciw ymlaen llaw
- Bydd angen i drefnydd y barbeciw dalu yn y ciosg mynediad ar ôl cyrraedd, a bydd y swyddog gwasanaethau ymwelwyr yn eich cynghori am leoliad y barbeciw
- Rhaid talu'r ffioedd parcio yn y maes parcio
- Dewch â'ch tanwydd a'ch cyfarpar eich hun
- Ceir llogi barbeciw rhwng 10am ac 5pm
- Rhaid i'r safleoedd gael eu clirio erbyn 5pm
- Rhaid i'r holl sbwriel gael ei gasglu a'i roi yn y biniau a ddarperir
- Ar wahân i'r prif drefnydd, mae'n rhaid i bob ymwelwr barcio yn y maes parcio
- Rhaid i lo barbeciw gael ei ddiffodd cyn i chi adael y safle barbeciw
- Caniateir cŵn, ond rhaid eu cadw dan reolaeth lem bob amser
- Gofynnwn i chi barchu Côd Cefn Gwlad bob amser
- Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot hefyd yn cadw'r hawl i newid unrhyw un o'r rheoliadau uchod heb rybudd