Hepgor gwe-lywio

Tirlun a Bywyd Gwyllt

Tirlun a Bywyd Gwyllt

Heddiw mae'r parc yn cyflwyno i'r naturiaethwr batrwm o gynefinoedd planhigion y gall eu presenoldeb fod yn gysylltiedig â rheolaeth amaethyddol a phlannu tirwedd.

Heddiw mae'r parc yn cyflwyno i'r naturiaethwr batrwm o gynefinoedd planhigion y gall eu presenoldeb fod yn gysylltiedig â rheolaeth amaethyddol a phlannu tirwedd.

Yma mae Iolo Williams, naturiaethwr a chyflwynydd teledu, yn esbonio pam mai'r Parc yw ei hoff fan gwyrdd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae coetiroedd llydanddail, conifferaidd a chymysg, prysgwydd, glaswelltir, corsydd, llynnoedd a nentydd yn darparu cefn gwlad amrywiol, sy'n cyferbynnu'n fawr â Phort Talbot ddiwydiannol.

Yn ddaearegol mae'r parc yn gorwedd ar yr haenau glo. Y llystyfiant nodweddiadol a geir yn yr haenau glo sydd ar uchelder is yn Ne Cymru yw coetir lle mae coed derw, bedw a gwern yn cael lle blaenllaw. Cyn y rhyfel diwethaf, roedd llawer o'r coetir hwn o fewn y parc a gorchuddiwyd y llethrau moel ar ben dwyreiniol y parc gan goetir.

Yn ystod y rhyfel, arweiniodd yr angen cenedlaethol am bren at ddatgoedwigo'r llethrau, a newidiodd y dirwedd.

Mae'r rhyddid cymharol rhag aflonyddwch a'r amrywiaeth eang o gynefinoedd wedi annog ffawna amrywiol a thoreithiog yn y parc.

Ymysg y mamaliaid mwy cyffredin sydd i'w gweld mae llwynogod, moch daear, ysgyfarnogod, gwiwerod llwyd, llygod y gwair a llygod cochion. Mae toreth o waddod i’w cael yn rhannau isaf y parc, y datgelir eu presenoldeb gan dwmpathau gwadd.

O bryd i'w gilydd gellir gweld gwiberod yn torheulo ar greigiau neu mewn ardaloedd glaswelltog. Mae'r parc yn cynnal amrywiaeth cyfoethog o adar gan gynnwys adar coetirol cyffredin fel delor y cnau, sgrech y coed a'r titw Tomos las, ac adar y rhostir fel clochdar y cerrig a bras y gors.

Rydym yn ffodus o gael poblogaeth ffyniannus o ehedyddion yn y parc gan fod y niferoedd, yn anffodus, yn gostwng ledled llawer o'r wlad. Gellir gweld bwncathod, cudyllod coch ac ambell walch glas yn hofran dros y parc, yn chwilio am famaliaid bach.

Mae elyrch mud, ieir y gors, ieir dŵr, gŵydd Canada, hwyaid gwyllt, hwyaid copog a hwyaid pengoch yn byw yn y llynnoedd, ac efallai y bydd gwylwyr amyneddgar yn sylwi ar leision y dorlan ger y nentydd.

© Parc Gwledig Margam