Hepgor gwe-lywio

Hanes

The Castle in its heyday, showing the Terrace, South and West Fronts, c:1900

Mae Parc Margam yn dirlun amrywiol ac amryfal sy'n dangos tystiolaeth o dros 4,000 o flynyddoedd o breswylio a defnydd parhaol gan ddyn ac felly'n cynrychioli adnodd dysgu gwerthfawr a phrin ac mae'n atyniad etifeddol o wahaniaeth sylweddol. Ceir gwerth hanesyddol a golygfaol eithriadol ac mae'n cynnwys rhai o drysorau pensaernïol gorau'r wlad yn ei leoliad godidog.

Mae'r stad wledig 850 erw wedi'i lleoli dwy filltir i'r dwyrain o Bort Talbot ar y gwastatir arfordirol cul, ar lethrau deheuol Mynydd Margam, mynydd coediog mawr sydd 349m AOD mewn uchder, ac un o brif anheddau hynafol Morgannwg. Gellir olrhain ei hanes yn ôl i'r amser cyn hanes, mae olion yr Oes Efydd a Haearn yn gyffredin yn yr ardal, ac mae tystiolaeth yn bodoli o feddiannaeth Rufeinig a Cheltaidd, mae'n debygol mai'r Rhufeiniad a gyflwynodd y ceirw.

Mae wedi bod yn lle o bwysigrwydd crefyddol drwy gydol ei hanes. Roedd yr Abaty Normanaidd, a sefydlwyd yng nghanol y 12fed Ganrif, tan ei ddiddymiad gan Harri'r VIII, yn ganolfan grefyddol o bwysigrwydd mawr yn Ne Cymru. Mae gweddillion yr Abaty'n rhai helaeth, gyda'r Ty Siapter adfeiliedig o ansawdd pensaernïol eithriadol.

Yn dilyn y Diddymiad, bu'r perchnogion dilynol yn adeiladu ac yn ail-adeiladu eu tai ar safle'r Abaty. Mae'r adeiladau sydd wedi goroesi yn ffurfio cofnod unigryw o'i ddatblygiad pensaernïol a hanesyddol. Yn hwyr yn y 18fed Ganrif, bu ailddatblygu sylweddol, trefnwyd yr ardal ar linellau clasurol fel coetir ac fe adeiladwyd yr Orendy enwog sy'n un o'r adeiladau mwyaf neilltuol o'i fath yn y wlad.

Yn gynnar yn y 19fed ganrif ychwanegwyd ac estynnwyd ymhellach ac fe adeiladwyd y Castell presennol ym Margam. Defnyddiwyd y Plasty arddull Tuduraidd hwn tan ddiwedd yr ail ryfel byd, a bu'r chwarter canrif canlynol o esgeulustra yn amlwg ar yr adeilad ac roedd mewn cyflwr gwael pan brynwyd ef gan y perchnogion presennol.

Agorwyd y Parc yn swyddogol i'r cyhoedd yn 1977 ac ers hynny mae rhyw bedair miliwn o bobl wedi ymweld i fwynhau'r cefn gwlad, y gerddi a'r etifeddiaeth; ar gyfer addysg amgylcheddol ac i ddefnyddio'r cyfleusterau'n gymdeithasol.