Y Ceirw
Mae'r ceirw heddiw yn crwydro drwy oddeutu 500 erw (200 hectar) o barcdir. Mae'n dyddio o gyfnod y Normaniaid, er bod nifer o gyfeiriadau at geirw yn yr ardal hon yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid.
Mae'r ceirw, a oedd oll yn hyddod brith yn wreiddiol, o safon genetig ardderchog gyda phennau cystal ag unrhyw rai yn Ynysoedd Prydain.
Yn y 15 blynedd diwethaf, cyflwynwyd ceirw coch ac yna geirw Pere David i'r parc, ac maent yn ffynnu yno. Mae'r ceirw Pere David yn rhywogaeth mewn perygl, ac yn y parc maent yn rhan o raglen fridio a gynhelir ar y cyd â Pharc Saffari Whipsnade.
Ar hyn o bryd, mae'r hyddgre'n cynnwys 300 o hyddod brith, 64 o geirw coch a 34 o geirw Pere David.
Staff y parc sy'n rheoli'r hyddgre. Mae saethu'n rheoli'r niferoedd yn bennaf, ac yna caiff y cig carw ei werthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd.