Hepgor gwe-lywio

Beicio

Beicio ym Mharc Margam

Mae Parc Gwledig Margam yn lleoliad ardderchog ar gyfer beicio. Does dim lle gwell i fwynhau cefn gwlad a chadw'n heini ar yr un pryd!

Mae beicio'n gyson yn cyfrannu at ffitrwydd cyffredinol, ac am nad yw'n rhoi pwysau ar gymalau a chyhyrau, mae'n ffordd ddelfrydol o gadw'n actif i bobl o bob oedran, pobl â gwynegon a phobl sydd dros bwysau.

Gallwch feicio o amgylch y parc ar heolydd tarmac ac ar lwybrau garw. Yr unig le gwaharddedig yw Gerddi'r Orendy. Rydym wedi darparu rheseli beiciau ym maes parcio'r Orendy ac yn libart y ganolfan ymwelwyr er cyfleuster i chi.

Ac yntau'n rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, mae Llwybr 4 y Lôn Geltaidd, sy'n rhedeg ar draws de Cymru, yn mynd drwy ogledd y parc.

Beicio mynydd

Rydym wedi creu ein llwybr beicio mynydd ein hunain. Mae tua 5 milltir o hyd. Mae'r llwybr yn eich arwain i ardaloedd mwy anghysbell y parc. Mae'n dilyn traciau, llwybrau a thir garw.

MCP Bike Leaflet


© Parc Gwledig Margam