Hepgor gwe-lywio

Clybiau'r Parc

Cyfeillion Parc Margam

Mae Cyfeillion Parc Margam yn grŵp sefydledig gyda llawer o aelodau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r parc neu ewch i http://www.friendsofmargampark.co.uk/

Clwb Saethyddion Margam Archers

Sefydlwyd clwb saethyddion Margam Archers ym mis Medi 1987. Beth bynnag rydych chi’n dymuno ei gael o saethyddiaeth, gall clwb saethyddion Margam Archers ei ddarparu. Mae'r clwb wedi tyfu'n gyson dros y blynyddoedd i’w aelodaeth bresennol a phriodoledd y llwyddiant hwn yw ei arwyddair ‘cyfeillgarwch'.
http://www.margamarchers.co.uk/

Modelu Morol Margam

Sefydlwyd Modelu Morol Parc Margam ym 1996 gan griw bach brwdfrydig a oedd am ffurfio clwb â'r nod o greu amgylchedd anffurfiol a chyfeillgar i ddilyn eu hobi. Ar y sail hon mae'r clwb wedi tyfu i fod yn grŵp mawr a llwyddiannus gyda llawer o'r modelwyr yn arddangos mewn sioeau mawreddog ledled y wlad.
http://www.margammodelboats.co.uk/

Clwb Criced Margam

Clwb Criced Margam yw un o'r clybiau criced hynaf yn ne Cymru. Fe'i sefydlwyd yn swyddogol ym 1897 gan weithwyr o ystad Arglwydd Talbot sydd bellach yn Barc Gwledig Margam, er bod haneswyr lleol yn credu bod criced wedi cael ei chwarae ar yr ystad tua 25 mlynedd yn gynharach. Roedd y cae chwarae wedi'i leoli yn wreiddiol ar yr ardal laswelltog wrth ymyl Castell Margam, ac yn y blynyddoedd diwethaf daeth yn lleoliad poblogaidd ar gyfer cyngherddau gan artistiaid megis Elton John a’r band o Gymru, Catatonia. Ar ryw adeg yn ystod chwarter cyntaf yr 20fed ganrif, symudwyd y cae i'w leoliad presennol ger yr Orendy yn rhan isaf Parc Margam. Adeiladwyd pafiliwn newydd ac fe'i defnyddir gan dimau Margam hyd heddiw.
http://www.margamcricketclub.co.uk/

 





© Parc Gwledig Margam