1750 |
Bu farw Bussy Mansel, y pedwerydd Barwn a'r olaf heb etifedd gwrywaidd. Daeth y teitl i ben gyda Margam, Oxwich a Phen-rhys yn trosglwyddo drwy briodas i'r teulu Talbot ac i'r Parchedig Thomas Talbot o Abaty Lacock, Wiltshire. Mwynhaodd ei etifeddiaeth am nifer fach o flynyddoedd gyda Margam yn cael ei drosglwyddo i'w fab, Thomas Mansel Talbot. |
1768 |
Thomas Mansel Talbot yn cychwyn ar Daith Fawr o'r Cyfandir, rhan dderbyniol o addysg dyn y ddeunawfed ganrif, gan ddychwelyd adref yn 1772 i'r Stad ym Mhen-rhys, Gwyr i adeiladu ei fila newydd yno. Dim ond pan oedd bron wedi'i gwblhau y trodd ei sylw at adnewyddu Margam. |
1786 |
Dechrau gwaith ar adeiladu'r Orendy i ddyluniad Anthony Keck. |
1792 |
Is-iarll Torrington yn adrodd gydag arswyd bod y ty siapter nawr yn gartref i geirw - cwympodd y to yn 1799 gyda darn o bensaernïaeth o'r Oesoedd canol wedi'i ddifetha.
|
1793 |
Cwblhau'r Orendy. Roedd cyfrifon y stad yn nodi bod y Ty Tuduraidd dadfeiliedig wedi'i ddymchwel o'r diwedd gan Thomas Mansel Talbot, a oedd nawr yn preswylio yn ei fila newydd ym Mhen-rhys. Pan fyddai'r teulu'n ymweld â'r Orendy a'r Gerddi byddent yn preswylio ym Mwthyn Margam ar gyrion y Parc. |
1794 |
Cafodd y gerddi eu ffensio i gadw'r ceirw allan a chynhyrchwyd mynedfa o bileri cerrig a gatiau gwledig. |
1800 |
Codwyd y Ty Sitrws yn gartref i rai o gasgliadau enwocaf y coed sitrws. |
1802 |
Yr Arglwydd Nelson, yn teithio drwy Dde Cymru gyda Syr William a'r Foneddiges Hamilton, yn ymweld â'r Orendy gan roi tip o dri swllt i'r garddwr a wnaeth eu tywys hwy o amgylch. |
1814 |
Mae map o'r stad yn dangos bod Talbot wedi cyflawni ei nod o greu Parc oherwydd mae'n dangos yr ardaloedd gwahanol o'r enw 'Parciau 'Mawr', 'Bach' ac 'Uwch' |
1820s |
Comisiynwyd cynlluniau i adeiladu ty newydd ym Margam gan Christopher (Kit) Rice Mansel Talbot (1803 - 90), mab Thomas Mansel Talbot, a oedd â syniadau rhamantaidd ynghylch y Parc, ei hanes a'r arddull yr oedd ef eisiau ar gyfer y ty. |
1830 |
Gwaith yn dechrau ar adeiladu Castell Margam, strafagansa ramantaidd a ddyluniwyd gan Thomas Hopper (1776-1856). Edward Haycock (1790-1870) o Amwythig oedd y pensaer goruchwyliol yn ystod y cyfnod hwn ac roedd hefyd yn gyfrifol am beth gwaith mewnol ac allanol ar y ty, y stablau, y terasau a'r porthdai. Ymddiddorai Talbot yn fawr yn y gwaith a goruchwyliodd y costau'n ofalus. |
1837 |
Mae'r ffasâd cerrig hanesyddol a briodolir i Inigo Jones, Teml y Pedwar Tymor, yn cael ei ail-godi i wynebu ty'r garddwr, Bwthyn Iorwg - yr wyneb hwn yw'r unig beth sy'n weddill o'r ty gwledda o'r ail ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd tramwyfa Orllewinol, gan gynnwys y bont ar ochr ogleddol y llyn pwll pysgod. Hefyd mae'n debygol ar yr adeg hwn i bileri'r gatiau gael eu symud o'r gerddi i'w safle gweddol od nawr wrth y fynedfa orllewinol. |
1840 |
Gorffen adeiladu'r Castell a gwaith ar y stablau a'r llibartiau ar y gweill. Adeiladu'r prif dramwyfa o'r dwyrain gan C.R.M. Talbot. Dechrau adeiladu'r Porthdai Dwyreiniol a ddyluniwyd gan Edward Haycock, ynghyd â'r Porthdy Canol a'r Porthdy Gorllewinol, a ddymchwelwyd yn 1975 i wneud lle ar gyfer traffordd yr M4. |
1841 |
Cronnwyd y cwm corslyd i'r gogledd o'r gerddi i ffurfio'r llyn pwll pysgod presennol, y dwr a ddefnyddiwyd i gyflenwi'r ffynhonnau ar Deras yr Orendy. Estynwyd cornel orllewinol y parc i gynnwys y rhan fwyaf o'r brif ffordd a phentref Margam; adeiladwyd pentref newydd y Groes ar yr un adeg, wedi'i dylunio gan Haycock, ond fe'i dymchwelwyd hefyd ar gyfer traffordd yr M4. |
1852 |
Adeiladu teras yr Orendy. Bu Henry Fox Talbot, y ffotograffydd arloesol ac ymwelydd rheolaidd â Margam yn y cyfnod hwn, yn gwneud nifer o arbrofion cynnar yng ngerddi Castell Margam ac fe lwyddodd i gymryd y golygfeydd ffotograffig cynharaf o'r plasty. |
1876 |
Bu farw unig fab Christopher R.M. Talbot o ganlyniad i ddamwain farchogaeth. |
1881 |
Ymwelodd Tywysog a Thywysoges Cymru, yn ddiweddarach Edward VII a'r Frenhines Alecsandra, â Margam ddydd Llun 17 Hydref 1881. Arhosodd y pâr am ginio ac wedi hynny fe blannodd y Tywysog goeden yng Ngerddi'r Orendy. |
1890 |
Etifeddwyd Margam gan Emily Charlotte Talbot. Adeiladwyd y Ty^ Gwinwydd ac ailosodwyd y rhan fwyaf o'r tai gwydr gan rai newydd gan Messenger & Co. o Loughborough, sydd oll wedi diflannu ac eithrio un bach y tu ôl i'r Ty^ Sitrws. Adeiladwyd y Cwt Injans.
|
1891 |
Cyflwynwyd trydan i'r Castell. |
1892 |
Yn y Castell, adeiladwyd Ystafell Filiards dros libart bach mewnol. Adeiladwyd Ty^ Twyn-yr-Hydd, gyda cholofnau o gerrig garw ar wahân fel mynedfa, yn gartref i asiant Emily Charlotte Talbot sef Edward Knox. |
1902 |
Crëwyd gardd bambw^ dan y llyn a chyflwynwyd Pergola i ran de-orllewinol o ardd yr Orendy gan Emily Charlotte Talbot. |
1918 |
Bu farw Emily Charlotte Talbot a rhoddwyd Margam mewn ymddiriedolaeth i'w gor-nai, plentyn dan oed. Roedd tad John Theodore Talbot Fletcher sef Capten Andrew Mansel Talbot Fletcher yn arddwr brwd ac fe gynorthwyodd i ariannu teithiau chwilio am blanhigion Frank Kingdom Ward. Fe gyflwynodd rai rhododendronau ac asaleas i'w plannu ym Margam, y mae nifer ohonynt yn dal i flodeuo.
|
1926 |
Crëwyd Llyn newydd gan Gapten Fletcher i ysgafnhau diweithdra a gwella'r olygfa o'r ty^. |
1930 |
Capten Fletcher yn newid yr hen floc stablau'n gwrt sboncen ac yn garej, ac yn creu cwrt tennis ar ochr de-ddwyreiniol y Castell. |