Tirlun a Bywyd Gwyllt
Mae'r ceirw heddiw yn crwydro drwy oddeutu 500 erw (200 hectar) o barcdir. Mae'n dyddio o gyfnod y Normaniaid, er bod nifer o gyfeiriadau at geirw yn yr ardal hon yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid.
Mae'r diffyg ymyrraeth gymharol, ac amrywiaeth mawr y cynefinoedd wedi hybu amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yn y parc.
Ymhlith y mamaliaid mwyaf cyffredin y mae llwynogod, moch daear, ysgyfarnogod, gwiwerod llwyd, llygod y gwair a chwistlod. Mae gwahaddod niferus yn rhan isaf y parc, ac mae hynny'n amlwg wrth weld pridd y wadd.
Mae'r llynnoedd yn gartref i'r alarch dof, y gwtiar, gwyddau Canada, hwyaid gwylltion, hwyaid copog a hwyaid pengoch, a chaiff y sylwedydd craff ac amyneddgar weld glas y dorlan ger y nentydd.