Hepgor gwe-lywio

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad Mis Hydref

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad - Mis Hydref

Y mis hwn yw mis y concyrs!!!

Ffeithiau am Goncyrs

  • Horse ChestnutsMae cas pigog concyr yn wenwynig
  • Concyr yw ffrwyth y gastanwydden. Maent yn dod yn wreiddiol o Albania a Groeg. Cawsant eu cyflwyno i’r DU ar ddiwedd y 16eg ganrif.
  • Yn y sir gelwir concyrs yn cheggies, hongkongs, conquerors, obbleyonkers a cobs.
  • Y dulliau o galedu concyrs yw piclo mewn finegr, pobi mewn ffwrn araf, gaeafu dros y gaeaf mewn cwpwrdd cynnes, paentio gyda farnais neu lud, chwistrellu gyda resin, a hyd yn oed cael eu treulio drwy fochyn!!!
  • Y concyr mwyaf llwyddiannus a gofnodwyd nad oedd wedi cael ei drin oedd y ‘five thousander’ ym 1954. Serch hynny, credir erbyn hyn bod y concyr hwn yn ‘ringer’, sef cneuen ifori neu dagwa.
  • Y cofnod cyntaf o gêm goncyrs oedd ym 1848. Cyn hynny, roedd plant yn chwarae gyda chnau collen a chregyn malwod.
  • Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, roedd plant yn cael eu recriwtio i gasglu concyrs, a oedd yn cael eu defnyddio i gynhyrchu ffrwydron.
  • I osgoi niwed i gastanwydd, nid yw llyfr recordiau Guinness yn cyhoeddi unrhyw gategori am y casgliad mwyaf o goncyrs.

Wrth gasglu concyrs, cymerwch ychydig yn unig. Mae bwyd yr hydref fel concyrs a chastanwydd melys yn fwyd hanfodol i’r ceirw yn ystod y tymor hwn.

Fallen LeavesDail yr hydref Dail yn cwympo yw un o arwyddion gorau’r hydref. Gyda’r lliwiau amrywiol maent yn cael eu chwythu i bob twll a chornel.

Enw coed sy’n colli eu dail yn ystod y gaeaf yw collddail. Coed llydanddail ydynt yn bennaf, sy’n blodeuo ac yn dwyn ffrwyth yn yr haf ac yn ystod misoedd yr hydref. Mae conifferau yn goed sydd â nodwyddau a chonau caled yn hytrach na dail a ffrwythau. Maent yn fythwyrdd yn bennaf. Y llarwydden yw un eithriad a cheir llawer yn y Parc.

Mae angen dŵr ar bob planhigyn i oroesi, ac yn y gaeaf gall gwreiddiau coeden ei chael hi’n anodd cymryd dŵr o’r ddaear sydd wedi rhewi. Wrth i’r gaeaf nesáu mae’r sudd yn y ddeilen yn draenio’n ôl i’r goes, mae sylwedd fel corc yn tyfu ar draws y brigyn ac yn torri’r ddeilen. Mae’r gwynt yn chwythu’r ddeilen farw a dim ond ei chraith sy’n weddill i ddangos ble y bu.

Ond nid yw gwaith y ddeilen a waredwyd wedi gorffen eto. Wedi’u taenu’n drwchus ar draws llawr y goedwig, mae’r dail marw’n pydru’n raddol dros y blynyddoedd i mewn i’r ddaear, gan wneud mowld dail cyfoethog. Mae hyn yn cyfoethogi’r ddaear am flynyddoedd i ddod.

© Parc Gwledig Margam