Gellir defnyddio Gorsafoedd Bwydo Anifeiliaid ar hyd Llwybr y Fferm. I ddefnyddio'r Gorsafoedd Bwydo Anifeiliaid, prynwch fag o fwyd anifeiliaid (£1.80 y bag) o gaban mynediad y maes parcio.
Gellir prynu bwyd hwyaid (£1.80 y bag) o gaban mynediad y maes parcio.
Er eich diogelwch ac er lles ein hanifeiliaid, defnyddiwch ein gorsaf golchi dwylo ar ddiwedd eich ymweliad â'r fferm.
Sesiynau bwydo alpaca dyddiol gyda Chyfeillion Parc Gwledig Margam: 12.30pm
Dim ond bwyd a brynir ym Mharc Gwledig Margam y gellir ei roi i'r anifeiliaid ar ein Llwybr Fferm. Peidiwch â bwydo unrhyw eitemau bwyd eraill i'n hanifeiliaid. Rydym hefyd yn cynghori ymwelwyr i beidio â chyffwrdd â'r anifeiliaid ar Lwybr y Fferm.