Mae ticâu yn arachnidau bach sy’n bwydo ar waed adar a mamaliaid, gan gynnwys anifeiliaid anwes a phobl. Mae ticâu’n gyffredin ledled y DU ac i’w cael mewn ardaloedd trefol a gwledig lle mae glaswellt hir, llystyfiant bras a choetiroedd. Mae eu niferoedd yn amrywio’n sylweddol drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal ag o ganlyniad i newid mewn amodau tywydd. Maent fwyaf gweithgar mewn tywydd cynnes a llaith. Mae rhagor o wybodaeth am dicâu a chlefydau cysylltiedig ar gael gan Lyme Disease Action.
Rydym yn cefnogi ymgyrch Plismona Gwrthderfysgaeth i annog pawb i gadw llygad am ei gilydd. Er mwyn eich cadw’n ddiogel, mae gennym fesurau diogelwch ar waith y gallwch eu gweld, ac wrth gwrs rai na allwch eu gweld. Rydym yn gofyn i’n hymwelwyr helpu drwy aros yn effro ac ymddiried yn eu greddf. Yn ystod eich ymweliad â’r parc, byddwch yn gweld aelodau o’r staff ar y safle, sydd yno i’ch helpu os oes angen. Os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn yn ystod eich ymweliad, rhowch wybod i aelod o staff ar unwaith a byddant yn delio â’r gweddill. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn rhoi gwybod amdano. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Peidiwch â mynd ar wyneb pyllau wedi rhewi o dan unrhyw amgylchiadau. Mae plant ac anifeiliaid anwes mewn perygl arbennig pan gânt eu temtio i chwarae ar yr iâ sy’n ffurfio ar ddŵr agored yn ystod tywydd oer. Dylid cadw anifeiliaid anwes ar dennyn pan yn agos at ddŵr wedi rhewi, a dylai perchnogion beidio â thaflu gwrthrychau ar yr iâ i’r anifeiliaid eu nôl.