Mae Parc a Chastell Margam wedi’u lleoli o fewn 850 erw o barcdir hanesyddol, gyda thystiolaeth o dros 4,000 o flynyddoedd o weithgarwch dynol parhaus. O aneddiadau cynhanesyddol i feddiannaeth y Rhufeiniaid, cymunedau Celtaidd a chrefydd ganoloesol, mae’r safle yn un o dirweddau hynafol mwyaf arwyddocaol Morgannwg.
Roedd Abaty Margam o’r 12fed ganrif unwaith yn ganolfan grefyddol bwysig yn Ne Cymru, ac mae ei weddillion trawiadol, gan gynnwys Tŷ’r Cabidwl, yn dal i sefyll heddiw. Ar ôl y Diddymiad, ail-luniodd perchnogion olynol yr ystâd drwy adeiladu tai newydd a chreu’r parcdir clasurol a welir heddiw. Mae’r Tŷ Oren, a adeiladwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn parhau i fod yn un o’r adeiladau mwyaf o’i fath ym Mhrydain.
Yn ystod y 19eg ganrif, ehangwyd yr ystâd ymhellach gyda chodi Castell Margam, plasty yn arddull y Tuduriaid. Yn dilyn degawdau o ddirywiad ar ôl yr Ail Ryfel Byd, prynwyd ac adferwyd yr ystâd, ac fe’i hagorwyd i’r cyhoedd ym 1977.
Heddiw, mae Parc Margam yn croesawu ymwelwyr i archwilio ei dirwedd, ei erddi, ei fywyd gwyllt a’i dreftadaeth.
Cronoleg Digwyddiadau Allweddol
Cipolwg ar Fywyd ym Margam 1830–1918
Tŷ Tyrbinau