Gŵyl Barcud Ryngwladol a ‘Dathlu 30 mlynedd o Gyfeillion Parc Margam’ Dewch i ddarganfod beth mae’r grŵp yn ei wneud… digonedd o weithgareddau i’w mwynhau.
Clwb Cychod Model Margam ‘Rho Gynnig Arni’ ac Arddangosfa yn y Castell – galwch heibio i gwrdd â’r criw!
Prynwch eich tocynnau parcio ceir ymlaen llaw drwy MIPERMIT Lleoliad 704229
Kidzfun – Deinosoriaid ac Unicorns
Paentiwch eich crochenwaith eich hun – amryw o ddyluniadau ar gael. Hefyd, crëwch botel celf tywod neu gerdyn tywod. Yn y Castell. Prisiau’n dechrau o £4.50. 11–3.
Rho Gynnig ar Saethyddiaeth
Gyda Chlwb Saethyddiaeth Margam.
3 saeth am £1. Cwrdd wrth safle’r barbeciw yng nghefn y Castell. 11–3.
Lucy Lost-it – SIOE
Paratowch am daith y tu hwnt i’r cyffredin wrth i chi gamu i fyd swynol Lucy Lost-it. Mae sioe Lucy Lost-it yn sbectacl disglair yn llawn hudoliaeth swynol, balŵns hyfryd, pypedwaith hudolus a sgiliau syrcas sy’n peri syndod. Paratowch eich hun ar gyfer profiad llawn chwerthin a fydd yn aros gyda chi drwy’r daith adref gyfan. Sioeau (tua 30 munud)
Yn y Castell: 11.30, 1.00 a 2.30
Rho Gynnig ar Saethyddiaeth
Gyda Chlwb Saethyddiaeth Margam. 3 saeth am £1. Cwrdd wrth safle’r barbeciw yng nghefn y Castell. 11–3
Dewiniaid a Straeon Hudolus
Straeon i swyno ac ysbrydoli pob oedran, wedi’u hadrodd gan gymeriadau hudol mewn gwisgoedd, gyda chymorth bach gan greaduriaid ffantasi cyfeillgar. Cwrdd yn y Castell: 11.30, 1.30 a 2.30.
Camwch i Fyd Gwyllt Planhigion Cigysol!
Dewch i ymuno â Ryan, ein Garddwr Parc gwych, am sgwrs hynod o hwylus a diddorol am ei gasgliad rhyfeddol o blanhigion cigysol, prin ac anghyffredin iawn. Darganfyddwch sut mae’r helwyr bach hyn yn byw, beth maen nhw’n hoffi ei fwyta, a sut gallwch chi eu cadw’n hapus gartref! Paratowch… bydd yn brofiad planhigion-ffantastig! 12.00 — Cwrdd yn y Castell!