Dyluniwyd yr Plasty Tuduraidd Gothig o’r 19eg Ganrif hwn gan y pensaer Thomas Hopper ar gyfer Christopher Rice Mansel Talbot. Adeiladwyd y tŷ rhwng 1830 a 1840 am gost o £50,000, gan ddefnyddio tywodfaen o chwarel cyfagos Pyle. Wedi’i restru fel Gradd I fel plas o ansawdd eithriadol, mae gan y Castell rai nodweddion trawiadol megis y neuadd risiau enfawr a’r tŵr wythonglog.
Gwelwch fawredd y Llyfrgell a’r Ystafell Fwyta – gweithiau celf, cerfluniau a dodrefn, gan gynnwys casgliadau a gronnwyd gan deulu Talbot dros genedlaethau. Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n hael gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF): Cronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau. Ewch i’r App Store neu Google Play Store i lawrlwytho ap M[AR]GAM.