Mae Parc Gwledig Margam yn lleoliad hardd ac unigryw â chyfleusterau i fodloni galwadau amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Cynhelir dros ddeugain o ddigwyddiadau mawr a bach bob blwyddyn yn y Parc..
Mae rheolwyr a staff Parc Margam yn brofiadol iawn a gallwch fod yn siŵr o gael gwasanaeth personol heb ei ail.
Mae ein gwybodaeth a’n harbenigedd ar gael i’ch gwasanaethu a’ch helpu i gynllunio digwyddiad llwyddiannus.
Rydym yn falch o drafod eich anghenion unigol.