Mae gan Barc Gwledig Margam ddau ardal farbiciw fawr, sy'n cynnwys dau hambwrdd a gril barbeciwio mawr, y tu ôl i brif adeilad y castell. Rhaid archebu safleoedd barbeciw ymlaen llaw drwy gysylltu â Phrif Swyddfa'r Parc.
Dylai partïon sy'n archebu safle barbeciw dalu yng nghiosg y brif fynedfa ar ôl cyrraedd. Sylwer y codir tâl am y maes parcio yn ogystal â chost llogi'r ardal farbiciw.
Ffioedd
Canllawiau a Rheoliadau
- I osgoi cael siom, archebwch eich safle barbeciw ymlaen llaw
- Bydd angen i drefnydd y barbeciw dalu yn y ciosg mynediad ar ôl cyrraedd, a bydd y swyddog gwasanaethau ymwelwyr yn eich cynghori am leoliad y barbeciw
- Rhaid talu'r ffioedd parcio yn y maes parcio
- Dewch â'ch tanwydd a'ch cyfarpar eich hun
- Ceir llogi barbeciw rhwng 10am ac 5pm
- Rhaid i'r safleoedd gael eu clirio erbyn 5pm
- Rhaid i'r holl sbwriel gael ei gasglu a'i roi yn y biniau a ddarperir
- Ar wahân i'r prif drefnydd, mae'n rhaid i bob ymwelwr barcio yn y maes parcio
- Rhaid i lo barbeciw gael ei ddiffodd cyn i chi adael y safle barbeciw
- Caniateir cŵn, ond rhaid eu cadw dan reolaeth lem bob amser
- Gofynnwn i chi barchu Côd Cefn Gwlad bob amser
- Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot hefyd yn cadw'r hawl i newid unrhyw un o'r rheoliadau uchod heb rybudd