Hepgor gwe-lywio

Rheilffordd Gul

Tren Parc Margam

Bydd y llwybr yn eich arwain drwy dirwedd hanesyddol hardd Parc Gwledig Margam. Mwynhewch olygfeydd godidog wrth ymyl y Pwll Newydd wrth i’r trac redeg dros y gronfa ddŵr, ac edrychwch dros y llyn tuag at y Castell pellennig a’i waliau teras wrth i chi deithio tua gorsaf y castell.

Mae’r ‘Trên Margam’ yn locomotif pŵer diesel sy’n rhedeg ar reilffordd cul 24”. Mae ganddo dair cerbyd wedi’u gorchuddio, pob un yn dal 24 o bobl, ac mae cyfleusterau ar gael i gadeiriau olwyn fynd ar y trên.

Lleoliadau gorsafoedd y trên:
Gorsaf maes parcio, ger caban mynediad y maes parcio.
Gorsaf y Castell, ger Llys y Castell.

Amseroedd gweithredu’r trên:
Yn gweithredu yn ystod tymor y gwanwyn a’r haf ar benwythnosau, gwyliau banc a gwyliau ysgol. Ar gau dros y tymor Hydref–Gaeaf. Gwiriwch ymlaen llaw am fanylion.

Sylwer: Yn ystod tywydd gwael a chyfnodau tawel gall amserlen y trên newid neu gall y gwasanaeth gael ei ganslo.

Derbynnir taliadau â cherdyn yn y safle.

Prisiau’r Trên

  • Oedolyn: £3.60
  • Plentyn / Pensiynwr: £1.90
  • Plant dan 3 oed: Am ddim