Mae Castell Margam yn adeilad rhestredig Gradd I o arwyddocâd pensaernïol, hanesyddol a chymunedol eithriadol, a leolir ym Mharc Margam, sydd ynddo’i hun yn dirwedd o bwysigrwydd cenedlaethol.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau cyllid Cam Datblygu NLHF i symud cynigion ymlaen ar gyfer Ailddychmygu Castell Margam, sef Cam 1 o uwch-gynllun ehangach. Bydd y Cam Datblygu’n symud cynigion cynllunio ymlaen at Gam 3 RIBA, gan ddatblygu defnydd cynaliadwy i’r dyfodol, a pharatoi cais Rownd 2 (Cam Darparu) i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Nawr, mae’r Cyngor yn chwilio am Ymgynghorydd hynod brofiadol i baratoi Cynllun Rheoli Cadwraeth llawn ar gyfer Castell Margam, i’r safon a ddisgwylir ar gyfer cais Cam Darparu gerbron NLHF. Dylai’r Ymgynghorydd feddu ar brofiad eang o ddarparu CMPs ar gyfer adeiladau rhestredig Gradd I, a phrofiad o weithio ar brosiectau a ariennir gan yr NLHF.
Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb lawrlwytho’r holl ddogfennau perthnasol a chael mynediad iddynt o’r adrannau isod. Nodwch os gwelwch yn dda mai’r dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynigion yw 7 Mai 2026, Dylid cyflwyno’r cynigion dros e-bost at j.m.davies@npt.gov.uk