Y mis hwn yw mis y concyrs!!!
Ffeithiau am Goncyrs
Wrth gasglu concyrs, cymerwch ychydig yn unig. Mae bwyd yr hydref fel concyrs a chastanwydd melys yn fwyd hanfodol i’r ceirw yn ystod y tymor hwn.
Dail yr hydref Dail yn cwympo yw un o arwyddion gorau’r hydref. Gyda’r lliwiau amrywiol maent yn cael eu chwythu i bob twll a chornel.
Enw coed sy’n colli eu dail yn ystod y gaeaf yw collddail. Coed llydanddail ydynt yn bennaf, sy’n blodeuo ac yn dwyn ffrwyth yn yr haf ac yn ystod misoedd yr hydref. Mae conifferau yn goed sydd â nodwyddau a chonau caled yn hytrach na dail a ffrwythau. Maent yn fythwyrdd yn bennaf. Y llarwydden yw un eithriad a cheir llawer yn y Parc.
Mae angen dŵr ar bob planhigyn i oroesi, ac yn y gaeaf gall gwreiddiau coeden ei chael hi’n anodd cymryd dŵr o’r ddaear sydd wedi rhewi. Wrth i’r gaeaf nesáu mae’r sudd yn y ddeilen yn draenio’n ôl i’r goes, mae sylwedd fel corc yn tyfu ar draws y brigyn ac yn torri’r ddeilen. Mae’r gwynt yn chwythu’r ddeilen farw a dim ond ei chraith sy’n weddill i ddangos ble y bu.
Ond nid yw gwaith y ddeilen a waredwyd wedi gorffen eto. Wedi’u taenu’n drwchus ar draws llawr y goedwig, mae’r dail marw’n pydru’n raddol dros y blynyddoedd i mewn i’r ddaear, gan wneud mowld dail cyfoethog. Mae hyn yn cyfoethogi’r ddaear am flynyddoedd i ddod.