Mae mis Rhagfyr yn gallu bod yn fis gwlyb ond beth am wisgo'ch welintons, a pha donig well sydd ar gyfer y Nadolig na mynd am dro yn y parc ym mis Rhagfyr. Mae heidiau o linosod yn bwydo, llwydrew yn cuddio yng nghysgodion y coetir a lliwiau gwelw prynhawn mis Rhagfyr fel cyferbyniad llonydd i dinsel a phapur lapio. A pheidiwch ag anghofio, ar ôl y cyri twrci olaf, bydd digwyddiad pwysig wedi llithro heibio - y diwrnod byrraf. Cyn hir, bydd diwrnodau hirach yn sbarduno tyfiant newydd.
Beth sy'n digwydd ym mis Rhagfyr?
Mae mamoliaid yn cael eu hamddiffyn rhag yr oerni gan eu blew gaeaf trwchus; mae hynny'n edrych yn wahanol i'r hyn sydd ganddynt yn yr haf. Mae llwynogod yn edrych yn arbennig o drawiadol, mae eu blew trwchus yn peri iddynt ymddangos yn llawer mwy tew nag y maen nhw mewn gwirionedd. Mae'r hyddod brith yn ymddangos yn llawer mwy llwydaidd - gyda lliw sy'n fwy llwyd-frown na chastan; a'u smotiau'n llawer llai amlwg.
Sylwch am y nico yn cyffwrdd â phen ffrwyth cribau'r pannwr meirw. Gyda phigau hirach a chulach na llinosod eraill, mae'r nicoyn gallu cael gafael ar yr had. Mae ardal o gribau'r pannwr yn gallu bod yn adnodd bwydo pwysig ar gyfer haid dwy'r gaeaf. Mae digonedd o hadau ar hyd y llwybr fferm yn annog llinosod i adael eu tiriogaeth i ffurfio heidiau cymysg. Fel arfer mae'r rhain yn cynnwys rhyw gannoedd o adar ond os yw'r amodau'n gwaethygu, mae'r heidiau hyn yn ymgasglu gan ffurfio heidiau enfawr a fydd yn symud dros nifer o feysydd bwydo da. Bydd y digonedd o gnau ffawydd eleni yn bodloni'r jibincod yn ogystal ag ambell binc y mynydd. Weithiau mae breision yn bwydo gyda'i gilydd mewn grwpiau mawr, ond fel arfer maen nhw'n ymuno â heidiau o linosod. Oherwydd bod cynifer o lygaid yn gwylio rhag perygl, mae bwydo mewn haid yn fwy diogel na chwilota ar wahân.
Mae niferoedd adar y to yn lleihau 25 y cant mewn blwyddyn... Mae dirywiad syfrdanol adar y to yn Llundain yn dal i ddigwydd, mae ffigurau newydd yn datgelu'r gwir stori. Dilynwyd y lleihad o 59 y cant mewn niferoedd rhwng 1994 a 2000 gan leihad o 25 y cant, gyda llawer o bobl Lundain yn gweld adar y to yn diflannu o'u gerddi rhwng 2000 a 2001 yn ôl yr Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig. Mae'r ffigurau newydd, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn yr Ymddiriedolaeth, yn dod o'i harolwg adar bridio 2001, sy'n cynnwys rhannau mawr o Brydain gan gynnwys, y llynedd, 54 km sgw (21 m sgw) o Lundain. Mae hynny'n golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i roi porthwyr adar allan yn enwedig yn ystod y cyfnodau oer.
Ailgylchu Coed Nadolig Ailgylchwch eich coed Nadolig eleni, os gwelwch yn dda. Mae un cartref Prydeinig allan o bedwar yn prynu coeden Nadolig go iawn (sbriwsen Norwy, sbriwsen Sitca neu binwydden yr Alban fel arfer), cyfanswm o fwy na phum miliwn o goed. O'r coed hyn dim ond canran bychan sy'n cael eu hailgylchu. Pa ffordd well o ddechrau'r flwyddyn newydd nag ailgylchu eich coeden fel ei bod yn cael ei malu a'i defnyddio fel taenfa neu haen ar gyfer llwybrau Am ragor o wybodaeth am gynlluniau ailgylchu lleol.