Mae'r nant hon yn llifo ar hyd waelod Cwm Phillip. Mae coetir cymysg ar un ochr i'r cwm, ac mae rhedyn yn gorchuddio'r ochr arall. Mae'n gynefin gwych i lawer o famaliaid bach, sy'n llunio rhwydwaith o dwneli o dan y llystyfiant. Yn aml gwelir adar ysglyfaethus yn hela ar hyd y llechweddau.