Hepgor gwe-lywio
Hanes Ceirw Parc Margam
- Gwyddom bod y mynachod Sistersaidd a sefydlodd fynachlog yma ym 1147 wedi hela ceirw gwyllt.
- Ym 1558, cafodd Syr Rice Mansel drwydded i ffensio'r parc. Mae'n rhaid mai er mwyn cadw'r ceirw yn y parc oedd hyn.
- Cofnodwyd hyddod brith a cheirw coch yn y parc yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif.