Hepgor gwe-lywio
Ceirw Père David
- Gwnaeth y naturiaethwr Ffrengig, y Tad Armand David, dynnu sylw'r gorllewin at y ceirw prin hyn. Fe ddaeth o hyd i'r ceirw yng ngerddi palas yr haf yn Peking ym 1865.
- Erbyn hyn, mae'r ceirw prin hyn yn cael eu bridio mewn ambell barc preifat a gerddi sŵ yn unig. Cred naturiaethwyr fod yr anifeiliaid wedi byw yn wreiddiol ar y gwastadedd corsiog a oedd unwaith yn bodoli yn y rhan fwyaf o Tsieina.
- Yn Tsieina, gelwir ceirw Père David yn "milu" neu "si bu xiang". Mae hyn yn cyfieithu fel y "pedwar peth annhebyg". Credai'r Tsieineaid fod gan yr anifeiliaid gynffon asyn, cyrn carw, gwddf camel a charn ychen.
- Sut byddech chi'n eu disgrifio?
- Mae ardaloedd corsiog y parc sydd dan orchudd rhododendronau wedi bod yn arbennig o addas i'r ceirw hyn ac maent wedi ffynnu ers cael eu cyflwyno.
