Hepgor gwe-lywio
Ceirw Coch
Ceirw Coch
- Mae ceirw coch wedi cael eu hailgyflwyno i Barc Margam. Dechreuodd hyn gyda chwech unigolyn o Barc Guilsborough yn Swydd Northampton. Credir eu bod yn dod o dras Albanaidd.
- Dros y blynyddoedd, mae'r gronfa genynnau wedi'i gwella trwy ychwanegu gwaed Warnham at yr hyddgre. Mae hyn wedi gwella ansawdd yr hyddgre yn ddirfawr. Erbyn hyn ceir hyddod mawreddog gyda chyrn sydd â thros deunaw pwynt - hynny yw nifer y pwyntiau ar bob corn.

