Hepgor gwe-lywio
Y Llyn Newydd
- Wrth ddilyn y trywydd yn ôl i'r castell drwy Gwm Philip, mae'r dyffryn yn lledu i gyfeiriad lawntiau'r ceirw a'r Llyn Newydd.
- Yn ystod y gaeaf, daw llawer o adar dŵr i'r llyn. Ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae'r hwyaden bengoch a'r hwyaden lwyd.
- Mae rhai'n byw yno drwy gydol y flwyddyn, sef y gwtiar a'r iâr ddŵr.
- Yn yr haf, daw haid o wyddau Canada yno i nythu ar yr ynys. Am sawl blwyddyn erbyn hyn, mae gŵydd India wedi aros gyda hwy. Mae'r un adar yn dychwelyd bob blwyddyn.
- Ar ddiwrnodau cynnes yr haf, gellir gweld gwenoliaid, gwenoliaid du a gwenoliaid y bondo yn dal pryfed ar wyneb y llyn.