Hepgor gwe-lywio
Golygfa o'r Pulpud
- Yn edrych ar draws llechwedd y fryngaer y mae Golygfa'r Pulpud. Ar ddiwrnod braf mae'r olygfa o'r Pulpud yn ymestyn i Ddyfnaint, Gwlad yr Haf, Penrhyn Gŵyr ac Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
- Mae'r glaswelltir ger y Pulpud yn un o'r ardaloedd lle mae ceirw'n pori yn y parc.
- Mae'r glaswelltir yn darparu mannau nythu delfrydol i'r ehedydd a chorhedydd y waun. Mae'r nythod wedi'u cuddio yn y gwair hir.
- Gwelir ysgyfarnogod yma'n aml hefyd.
- Yr aderyn mawr du a welir weithiau o'r Pulpud yw brân fwyaf Prydain, y gigfran. Mae'r cerrynt aer sy'n llifo o'r llethrau serth yn helpu'r adar hyn i godi, ac yn aml, gellir eu gweld yn arddangos eu campau hedfan.