Hepgor gwe-lywio
Gerddi'r Orendy
- Cyn symud ymlaen at rannau mwy gwyllt y parc, rydym yn croesi drwy erddi ffurfiol yr Orendy. Dyma'r Cabidyldy a adeiladwyd yn yr 11eg ganrif.
- Hwyrach na fyddech chi'n disgwyl gweld unrhyw fywyd gwyllt yn byw yn y gerddi, ond cewch eich synnu.
- Mae'r coed yn eu llawn dwf yn cynnig mannau nythu perffaith ar gyfer brych y coed a'r fronfraith. Dyma fronfraith yn bwydo'i rhai bach.
- Mae'r ystlum lleiaf yn defnyddio adeilad yr Orendy fel lle clwydo yn y gaeaf a man mamolaeth yr haf.
- Mae blodau'r haf, sydd mor ddeniadol, yn darparu neithdar i sawl rywogaeth o drychfilod sy'n helpu peillio planhigion hefyd.
- Edrychwch ar yr hen furiau a llawer ohonynt wedi'u gorchuddio â chen.
- Mae draenogod yn dwlu ar y gerddi ffurfiol. Maent yn treulio'r dydd yn cysgu mewn gwelyau deiliog cuddiedig ac yna'n ymddangos gyda'r nos i fwydo. Mwydod, gwlithod a chwilod yw eu ffefrynnau.