Hepgor gwe-lywio
Cwm Phillip Valley
Cwm Phillip
- Mae'r llethr y tu hwnt i'r Pulpud yn disgyn i Gwm Phillip.
- Plannwyd coed cymysg ar y llethr bellaf gan gynnwys cerddin, ynn a derw.
- Gellir gweld celynnen fawr wrth ochr y llwybr.
- Mae aeron celyn a chriafol (aeron cerddin) yn dda fel byrbrydau hydrefol i adar, megis y ji-binc yn y llun.
- Mae'r llethr redynog yn gynefin gwych i lawer o famaliaid bach. Maent yn creu rhwydwaith o dwneli o dan gysgod y llystyfiant.
- Yn aml gwelir adar ysglyfaethus yn hela ar hyd y dorlan. Cudyll coch gwryw yw hwn.
- Mae'r nant sydd ar hyd gwaelod Cwm Phillip yn llifo i'r Pwll Pysgod a welsom yn gynharach.