Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ceisio sicrhau bod yr ystâd ar gael i bobl ei defnyddio a'i mwynhau ac mae'n gofyn i chi barchu'r parc a gadael y lle hardd hwn yn yr un cyflwr yr oedd ynddo pan gyrhaeddoch.
Dylid cadw cŵn dan reolaeth lwyr a'u hatal yn effeithiol rhag poeni unrhyw berson a rhag poeni neu aflonyddu unrhyw anifail. Dylid cadw eich ci ar dennyn yng Ngerddi'r Orenfa. Sylwer bod biniau baw cŵn ar gael yn y maes parcio a'r Ganolfan Ymwelwyr. Gofynnwch yng nghiosg y maes parcio am fagiau baw cŵn.
Rydym yn annog ein hymwelwyr i fynd â'u sbwriel adref gyda hwy - gall niweidio ein hanifeiliaid a'r bywyd gwyllt. Rydym yn darparu biniau baw yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cau pob gât ar ôl ei defnyddio a pheidiwch â chroesi ffensys na waliau oni bai bod gatiau ar gael.
Ni ddylid tynnu nac ymyrryd ar unrhyw flodau, pennau hadau, ffrwythau na deunyddiau neu labeli planhigion.
Gwaherddir cynnau tanau. Mae safleoedd barbeciw ar gael. Cysylltwch â'n swyddfa am fanylion.
Ni chaniateir nofio mewn unrhyw un o'r llynnoedd na'r cyrsiau dŵr. Gall fod rhwystrau dan y dŵr neu gerhyntau sy'n gallu bod yn beryglus.
 thrwydded yn unig - gellir prynu trwyddedau yn swyddfeydd rheoli'r parc neu yng nghiosg y fynedfa.
Gellir gosod rhwystrau o bryd i'w gilydd i rai ardaloedd pan fo digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal yno.
Heblaw am hawliau tramwy cyhoeddus, llwybrau goddefol yw llwybrau'r parc ac mae rheolwyr y parc yn cadw'r hawl i gau llwybr o bryd i'w gilydd.
Cyfyngir y rhain i ffyrdd a llwybrau penodol yr ystâd. Ni chaniateir beicio yng Ngerddi'r Orendy.
Caniateir parcio mewn mannau parcio penodol yn unig. Dim ond cerbydau â chaniatâd sy'n gallu gyrru o fewn y parc. Bydd goleuadau rhybudd ar waith bob tro ac mae'n rhaid i gerbydau gadw at y cyfyngiad cyflymder 15mya.
Mae ychydig o leoedd parcio i'r anabl yng nghefn y castell ar gyfer Deiliaid Bathodynnau Glas yn unig. Gofynnwch yng nghiosg y maes parcio am fanylion.
Ystyriwch y bobl eraill sy'n defnyddio'r parc a cheisiwch leihau unrhyw sŵn i lefel dderbyniol.