O'u cymharu â nifer o blanhigion, mae hadau'r mwyafrif o rywogaethau Sitrws yn gymharol fawr a hawdd eu trin. Os cânt eu hau mewn compost hadau 'agored' mewn man golau â thymheredd tua 15°C, dylent egino o fewn dwy neu dair wythnos. Fodd bynnag, bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn iddynt ddechrau cynhyrchu blodau a ffrwythau.
Yn ogystal â lluosogi planhigion o hadau, gallant hefyd gael eu lluosogi trwy doriadau. Gellir gosod toriadau rhwng 100 a 150mm o hyd, sydd wedi eu gwneud yn agos at fonyn y planhigyn, mewn tywod llaith a bras ar dymheredd o 21°C a'u cadw mor llaith â phosibl hyd nes i'r gwreiddiau ffurfio - a ddylai fod o fewn ychydig fisoedd.
Nid yw planhigion sitrws yn hoff iawn o galch, felly pan fo'r eginblanhigion yn ddigon mawr i gael eu potio, dylid eu plannu mewn pot sy'n cynnwys compost grugaidd, yn ddelfrydol un â phridd yn sail iddo fel y rhai a ddatblygwyd gan Sefydliad John Innes. Y pH optimwm ar gyfer y compost yw 6, sydd ychydig ar ochr asidig niwtral.
Yn ystod y tymor tyfu, o'r gwanwyn i'r haf, bydd y planhigion yn elwa o ddefnyddio gwrtaith llawn nitrogen yn rheolaidd i hybu tyfiant cryf. Unwaith bydd y gaeaf wedi cyrraedd, bydd bwydo achlysurol gyda gwrtaith cytbwys yn fuddiol ac yn helpu i gadw'r planhigyn yn iach.
Er bydd angen digon o ddŵr ar eich planhigion mewn tywydd poeth, ni ddylid gadael iddynt fod o dan ddŵr oherwydd bydd hyn yn lladd y gwreiddiau a bydd eu dail yn cwympo. Yn yr un modd, os na fyddant yn cael digon o ddŵr, bydd y blodau yn cwympo a'r dail yn crino.
Unwaith bydd y perygl o rew wedi pasio, mae'n arferol i osod potiau mawr o sitrws mewn mannau cysgodol yn yr ardd. Er y byddant yn cael glaw, bydd y dail yn aml yn gweithredu fel ymbarél a bydd y glaw yn llifo oddi arnynt heb wlychu'r compost, felly dylid gwirio'r compost yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn llaith.
Y math gorau o bot yw un terracotta; mae'n hawdd dweud a yw'r compost yn sych ai peidio wrth dapio ochr y pot. Bydd gan bot clai sych mwy o dinc i'r sain wrth ei dapio na phot gwlyb ac maen nhw'n llai tebygol o ddal dŵr yn ormodol na rhai plastig. Y brif anfantais i'r potiau clai hyn yw eu pwysau a all fod yn llawer trymach na photiau plastig.
Gellir gwneud neu brynu cynwysyddion hirsgwar addurniadol, wedi'u modelu ar y rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer tyfu Sitrws yng ngardd Versailles, ond rhaid ystyried eu pwysau a'u maint wrth eu symud i fan cysgodol unwaith bydd unrhyw berygl o rew.
Y dŵr gorau ar gyfer dyfrio'ch Sitrws fydd dŵr glaw glân gan na fydd hwn wedi derbyn unrhyw driniaeth gemegol a allai fod yn niweidiol i'r planhigion. Os nad oes digon o ddŵr glaw ar gael, mae'r defnydd o ddŵr tap 'meddal' yn well na dŵr 'caled' sy'n cynnwys calsiwm a fydd yn gadael haenennau hyll ar y dail.
Yn wreiddiol defnyddiwyd orendai, megis yr adeilad addurniadol gwych yma ym Margam, i gysgodi coed Sitrws dros y gaeaf; nid ydynt yn caniatáu i'r planhigion gael digon o olau iddynt dyfu'n iach yno drwy gydol y flwyddyn. Dylid cadw planhigion mewn man mor olau â phosib.
Cyn belled â bod rhywfaint o symudiad yn yr awyr a bod ganddynt leithder o gwmpas eu gwreiddiau, bydd coed orennau yn hapus yn nhymheredd poethaf misoedd yr haf. Fodd bynnag, yn gynnar yn yr hydref, cyn gynted ag y bydd y tymheredd yn dechrau cwympo, rhaid symud y planhigion i fan lle nad yw'r tymheredd yn is na 8 neu 10°C, nac yn codi llawer uwch na 15°C. Dylid eu cadw yn yr amgylchedd mwyn hwn drwy gydol y gaeaf hyd nes bydd y perygl o rew wedi pasio. Bydd hyn fel arfer ar ddiwedd mis Mai neu ar ddechrau mis Mehefin.
Nid oes angen tocio fel arfer, ond os yw'r tyfiant yn wan neu os yw'r llwyn yn ddi-siâp neu'n tyfu'n rhy fawr i'w le, gall y canghennau gael eu byrhau'n y gwanwyn.