Hepgor gwe-lywio

Dysgu mwy am Sitrws!

Orennau yw un o'r ffrwythau mwyaf poblogaidd sy'n cael eu bwyta ym Mhrydain, fodd bynnag, nid yw'n sicr o ble daeth y planhigion gwyllt yn wreiddiol. Gwyddom fod orennau a sitronau yn cael eu tyfu yn Tsieina mor gynnar â 2,200 CC.

Mae'n bosib bod hadau a phlanhigion wedi'u cludo gan fasnachwyr neu deithwyr i Iran ac Irac a chredir eu bod wedi eu tyfu yng Ngerddi Crog Babilon.

Roedd gan yr orennau cyntaf a dyfwyd yn ne Ewrop flas chwerw; yn wahanol i'r mathau yr ydym yn eu bwyta heddiw sydd â blas melys, ac fe'u defnyddiwyd at ddibenion meddyginiaethol yn ystod yr 11eg ganrif.

Ni chyrhaeddodd orennau melys Ewrop nes yr 16eg ganrif, ac yn ôl pob tebyg masnachwyr o Bortiwgal ddaeth â nhw, ac ar ôl y cyfnod hwn y cawsant eu tyfu'n eang.

Gan na allant wrthsefyll rhew difrifol, ni thyfwyd orennau ym Mhrydain tan y cyfnod Baróc yn yr 17eg ganrif pan greodd tirfeddianwyr cyfoethog orendai eithafol i'w hamddiffyn rhag tywydd y gaeaf.

Yn draddodiadol, caiff coed oren sy'n tyfu mewn potiau mawr eu rhoi i sefyll yn yr awyr agored yn ystod misoedd yr haf; gellir agor panel ym mlaen y tŷ gwydr hwn er mwyn caniatáu i goed uchel gael eu symud allan yn hawdd. Yna fe'u dychwelir i gysgod yr Orendy cyn i rew y gaeaf gyrraedd.

Mae orennau, lemonau, leimiau a grawnffrwythau yn llwyni bytholwyrdd maint canolig addurniadol iawn sy'n dwyn blodau ag arogl cryf a ffrwythau mawr deniadol.

Mae coed lemon bach yn blanhigion poblogaidd iawn ar gyfer y tŷ a'r ystafell wydr oherwydd byddant yn dwyn ffrwyth a blodau arogl melys ar yr un pryd. Mae rhai mathau'n oddefgar o dymheredd eithaf isel er na fydd unrhyw un ohonynt yn goddef rhewogydd trymion.

Yn wyddonol mae'r holl fathau o orennau, lemonau a leimiau yn perthyn i'r rhywogaeth Citrus ac ar hyn o bryd mae tua 20 o rywogaethau gwahanol yn cael eu cydnabod gan fotanegwyr.

Mae dros 70 miliwn o dunelli o orennau ar gyfer bwyta yn cael eu tyfu ledled y byd bob blwyddyn; defnyddir y rhan fwyaf o'r allbwn hwn i wneud sudd oren.

Y tyfwr mwyaf yn y byd yw Brasil gyda thua 20 miliwn o dunelli o ffrwythau yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn ac mae'r rhan fwyaf o'r cynnyrch hwn yn cael ei allforio.

Citrus sinensis, yw'r Oren Cyffredin ac mae'n cynnwys yr Oren Gwaed â'r cig coch a'r Oren Bogeiliol. Mae dros 50 o fathau o'r rhywogaeth hon a dyma'r goeden ffrwythau a gaiff ei thyfu'n fwyaf eang yn y byd.

Mae citrus aurantium, yn adnabyddus fel 'Oren Chwerw' ac fe'i defnyddir yn eang i wneud marmalêd.

Cafodd 'Orange County' yng Nghaliffornia ei henw o'r ffaith bod cynifer o ffermydd wedi mynd ati i dyfu orennau yno. Fodd bynnag, erbyn y lledaeniad trefol yng nghanol y 1990au, roedd y prif ardaloedd cynhyrchu yn UDA wedi symud oddi wrth Califfornia ac i Florida a Brasil.

Daw'r gair 'orange' o'r Sansgrit ar gyfer y ffrwyth a chafodd y lliw oren ei enwi ar ôl y ffrwyth.

Yn y 19eg ganrif, cafodd morwyr Prydain y ffugenw 'Limeys' oherwydd bod leimiau, citrus aurantiifolia, yn cael eu rhoi iddynt yn ddyddiol. Cafodd y ffrwythau sitrws hyn eu bwyta i'w hatal rhag cael clefyd, 'y llwg', a achosir gan ddiffyg fitamin C. Mewn gwirionedd mae lemonau yn cynnwys llawer mwy o'r fitamin hwn ond nid oeddent ar gael yn rhwydd i'r llynges Brydeinig a oedd yn teithio yn ôl ac ymlaen i India'r Gorllewin.

Cyflwynwyd y lemon, Citrus limon, i ardal y Canoldir tua'r un pryd â'r oren. Credir bod y math poblogaidd 'Meyer' yn groesiad rhwng y gwir lemon a'r oren cyffredin. O ran planhigion citrus, mae'n gymharol galed a gall wrthsefyll tymheredd o -5C am ychydig oriau heb lawer o niwed.

Mae pob rhywogaeth citrus yn gydffrwythlon a lle mae rhywogaethau gwahanol yn cael eu tyfu yn agos at ei gilydd, mae hadau a gymerir o ffrwythau yn debygol o gynhyrchu hybridau sy'n cyfuno nodweddion pob rhiant-blanhigyn.

Defnyddir yr olewau sydd yng nghroen y ffrwythau citrus yn eang wrth gynhyrchu persawr, meddyginiaethau a nwyddau glanhau.

Mae'r sitron, citrus medica, yn ffrwyth mawr, yn aml yn llawer mwy na 150mm o hyd a lled. Mae'n wahanol iawn i'r rhan fwyaf o'r mathau eraill y gellir eu bwyta gan fod ganddo fywyn gwyn hynod o drwchus o dan y croen lliw tenau, ac mae'n cynnwys canol sych cylchrannog lle ceir yr hadau. Fe'i defnyddiwyd at ddibenion meddygol ers yr oes a fu ac mae wedi ei dyfu am gyfnod hwy nag unrhyw rywogaeth arall. Mae ffurf o'r sitron a elwir yn 'Llaw Bwda' lle mae gan y ffrwyth siâp fel clwstwr mawr o fysedd. Ei enw gwyddonol yw citrus medica digitata.

Credir bod y Bergamot, citrus bergamia, yn hybrid naturiol rhwng yr oren chwerw a'r leim, ac mae'n tyfu yn India a Tsieina. Mae olew hanfodol gwerthfawr yn cael ei wasgu o'i groen ac fe'i defnyddiwyd fel sylfaen ar gyfer persawrau, yn enwedig 'Eau de Cologne' ers 1714. Fe'i defnyddir hefyd i roi'r blas nodedig i de 'Earl Grey'.

Pomelo (a elwir hefyd yn Pamplemousse) Citrus maxima. Fel yr awgryma'i enw gwyddonol, mae'r rhywogaeth hon yn dwyn ffrwyth mawr sydd â bywyn gwyn trwchus â darnau melys llawn sudd a hadau. Arferai hwn gael ei fwyta'n eang ond erbyn hyn mae'r grawnffrwyth hybrid wedi cymryd ei le.

Mae'r grawnffrwyth, sef Citrus x paradisi, yn fwyaf adnabyddus fel ffrwyth brecwast. Credir ei fod yn hybrid rhwng math o pomelo a'r oren cyffredin a ddarganfuwyd gyntaf yn India'r Gorllewin gan y Cymro Griffith Hughes tua 1750.

Mae'r Tanjerîn, y Mandarin, y Clementin a'r Satswma bach, hawdd i'w plicio, yn amrywiaethau o'r Citrus reticulate. Mae'n bosib mae dyma'r rhywogaeth fwyaf poblogaidd o'r holl ffrwythau Citrus bwytadwy a'r mwyaf caled ohonynt i gyd, a hynny wedi iddynt gael eu cofnodi'n gwrthsefyll -10C heb unrhyw niwed.