Paradwys i Ystlumod
Yn y DU, mae gennym 18 o rywogaethau brodorol o ystlum ac yma ym Mharc Margam, rydym yn ddigon ffodus o gael 14 o rywogaethau. Mae Castell Margam yn un o'r adeiladau pwysicaf i ystlumod yng Nghymru gyfan. Mae gan Gastell Margam a'r parcdir o'i amgylch amrywiaeth gwych o gynefinoedd sydd o fudd i ystlumod, gan gynnwys coetiroedd, cyrff dŵr, darnau agored o dir ac amrywiaeth o glwydfannau sy'n addas ar gyfer nifer o rywogaethau. Bydd y daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am rai ohonynt.
Mae ystlumod yn mordwyo ac yn dal ysglyfaeth yn y tywyllwch gan ddefnyddio ‘ecoleoli’ h.y. gwneud sŵn a gwrando ar yr atsain. Er mwyn adnabod ystlumod, mae ecolegwyr yn defnyddio 'synhwyrydd ystlumod' sy'n trawsnewid y synau hyn o rai amledd uchel i rywbeth y gallwn ni ei glywed. Gallwn ddefnyddio amledd a phatrymau'r alwad i adnabod yr ystlum!
Os hoffech wybod mwy neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ystlumod, cysylltwch yn biodiversity@npt.gov.uk