Hepgor gwe-lywio

Cynllun HYNT

Mae celf a diwylliant i bawb.

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson.  Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio ymweliad â theatr. Rydym yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau oll i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg.

Cerdyn Aelodaeth yw Hynt

Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ym Mharc Gwledig Margam, mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i docyn am ddim i'w gofalwr neu gynorthwyydd personol ar gyfer ein holl ddigwyddiadau Gŵyl y Banc. Cliciwch [yma] i gael gwybod os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/i gael cerdyn neu cliciwch [yma] i wneud cais.

Adnodd yw Hynt

Mae www.hynt.co.uk a www.hynt.cymru yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol am y cynllun a sut mae’n gweithio. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybodaeth neu newyddion am fynediad a’r celfyddydau. Mae’r wefan yn cynnwys [rhestrau] o bob perfformiad hygyrch yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am leoliadau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad.

© Parc Gwledig Margam