Mae ein Canolfan Ymwelwyr yn Llibart y Castell ac mae’n cynnwys Siop Anrhegion lle ceir gwybodaeth am ein gweithgareddau, toiledau, cyfleusterau newid babanod a’n swyddfeydd gweinyddol.
Mae hefyd yn fan cychwyn ar gyfer yr holl deithiau cerdded o gwmpas y parcdir.
Sylwer bod y siop ar gau drwy gydol tymor y gaeaf.
Pantri Charlotte
Mae ein hystafelloedd te mewn lleoliad cyfleus yn Llibart y Castell, ac yma gallwch fwynhau seibiant haeddiannol.
Mae Pantri Charlotte ar agor o 11.00am tan 4.00pm, a darperir te, coffi ac amrywiaeth o frechdanau, hufen iâ a byrbrydau drwy’r dydd.
Gweinir prydau ysgafn o 12.00pm tan 2.00pm