Hepgor gwe-lywio

Aelodaeth o'r parc

Mae Aelodaeth y Parc yn llawn buddion ac mae'n ffordd wych o gael y gorau o'ch ymweliad...


Llawn manteision ac yn ffordd wych o fwynhau'r parc os ydych chi'n ymweld â'r parc yn rheolaidd!

Beth am fod yn 'Aelod o'n Parc' gyda'n cynllun aelodaeth?

Mae eich aelodaeth o'r parc yn cynnwys (gan eithrio 'Diwrnodau Digwyddiadau Arbennig'):

  • Parcio am ddim ar gyfer 1 car ym Mharc Gwledig Margam - yn ddilys am flwyddyn o'r dyddiad prynu
  • gostyngiad o 10% yn siop roddion y parc
  • gostyngiad o 10% yn Charlotte's Pantry
  • gostyngiad o 10% yn Go Ape Tree Top Adventure
  • Mynediad cynnar i'r parc rhwng 9am a 10am
  • Mynediad hwyr i'r parc, 30 munud cyn amser cau'r parc - Cliciwch yma i weld yr oriau agor tymhorol.

Aelodaeth o'r parc - Safonol £57

Aelodaeth o'r parc (gostyngiad i breswylwyr CNPT) - £52

Mae Aelodaeth o'r Parc yn cynnwys ffioedd parcio ar gyfer un car yn y prif faes parcio ym Mharc Gwledig Margam (gan eithrio 'Diwrnodau Digwyddiadau Arbennig'). Bydd yr aelodaeth yn ddilys am flwyddyn o'r dyddiad prynu ar-lein neu o'r safle (caniatewch hyd at 5 diwrnod i'ch aelodaeth gael ei sefydlu).

Mae dewis gennych i ychwanegu rhodd o £5 pan fyddwch yn prynu eich aelodaeth. Rydym yn ddiolchgar am yr holl roddion a fydd yn cael eu defnyddio'n uniongyrchol ar gyfer cynnal y parc.

© Parc Gwledig Margam