Mae'r arolwg cyflwr bellach wedi'i gwblhau - mae arbenigwyr wedi archwilio'r tu mewn a'r tu allan gan edrych ar atgyweirio gwaith cerrig, ffenestri, drysau, grisiau, cyfarpar trydanol. Hedfanwyd drôn dros y castell i edrych ar rannau amrywiol o'r to, y tyrau a lle mae'r dŵr glaw yn mynd ar hyn o bryd. Amcangyfrifwyd y bydd y gwaith atgyweirio cychwynnol yn costio £9.1 miliwn.
Gwnaed gwaith ymgynghori cychwynnol (yn 2022) gyda 480 o ymatebion i'r arolwg dewisiadau - ymatebion gan aelodau'r cyhoedd, 18 ysgol a 12 grŵp treftadaeth. Rydym hefyd wedi siarad â grwpiau allweddol a rhanddeiliaid fel Cyfeillion Parc Margam, y Cyngor Astudiaethau Maes ac Abaty Margam.
Mae'r ymgynghoriad hyd yn hyn wedi rhoi syniad clir o'r hyn y mae pobl am ei weld y tu mewn i'r castell a hefyd eu pryderon. Canfu'r ymgynghoriad y canlynol:
- Hoffai pobl weld y gwagle yn y castell yn cael ei ddefnyddio i gynyddu'r digwyddiadau a'r gweithgareddau y mae Parc Gwledig Margam yn eu cynnig.
- Hoffai pobl weld llety dros nos yn cael ei gyflwyno.
- Hoffai pobl weld y gwagle'n cael ei ddefnyddio fel amgueddfa neu ofod arddangos.
- Roedd gan yr holl ysgolion ddiddordeb hefyd mewn defnyddio Castell Margam fel cyfleuster ac adnodd addysgiadol yn y dyfodol.
Defnyddiwyd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd i ddylanwadu ar y dyluniadau y mae penseiri wedi bod yn gweithio arnynt ar gyfer cam nesaf yr ymgynghoriad, gan ddangos defnyddiau posib eraill ar gyfer Castell Margam.
Cynhelir Ymgynghoriad y Pasg rhwng 19 a 26 Ebrill, 11am-3pm.
Bydd yr ymgynghoriad ar ffurf arddangosfa ryngweithiol yn y castell lle gall ymwelwyr rannu eu straeon am eu cysylltiad â'r castell, gwybodaeth hanesyddol newydd am gasgliad celf Castell Margam yn ei holl ogoniant a gall ymwelwyr hefyd adael sylwadau ar ddewisiadau a syniadau ar gyfer dyfodol Castell Margam.
Bydd yr ymgynghoriad ar gael ar-lein hefyd ar ffurf arddangosfa ac arolwg digidol ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu cyrraedd y castell yn ystod y cyfnod ymgynghori ond sydd eisiau mynegi barn.