Hepgor gwe-lywio

Perllan a Dôl Gymunedol Parc Margam

Mae prosiect Perllan a Dôl Gymunedol Parc Margam yn gydweithrediad rhwng Parc Gwledig Margam a gwirfoddolwyr Cyfeillion Parc Margam.

Nod y prosiect yw creu gardd gynhyrchiol, gyfoethog o ran rhywogaethau, amlsynhwyraidd, gymunedol, sy’n cysylltu pobl â threftadaeth, bwyd a natur. Mae'r prosiect yn ymrwymedig i warchod ac adfer natur trwy ddefnyddio a gweithredu arferion cynaliadwy.

Lleolir y Berllan a'r Ddôl Gymunedol o fewn yr ardd gegin furiog, hanesyddol. Mae'r prosiect yn cynnwys adfer coed afalau a gellyg presennol a phlannu coed newydd, gan gynnwys coed ffrwyth treftadaeth Gymreig, llwyni ffrwythau, perlysiau a llysiau lluosflwydd. Mae ardaloedd o amgylch y coed ffrwythau yn cael eu rheoli fel dôl blodau gwyllt. Gwneir y gwaith dylunio, gweithredu a chynnal a chadw gan wirfoddolwyr sy'n gweithio gyda staff y parc.

Trefnir amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau cynhwysol trwy gydol y flwyddyn gan gynnwys plannu, tocio, cyfrifiadau bioamrywiaeth, cynaeafu a dathlu Diwrnod Afalau. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau a gweithgareddau diweddaraf yma.

Ariennir Perllan a Dôl Gymunedol Parc Margam gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o'u cynllun grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ac mae'n derbyn cymorth a hyfforddiant gan brosiect Orchard. Mae'r cynllun yn cydnabod natur fel y ffurf hynaf ar dreftadaeth a'r brys wrth geisio helpu i adfer natur. Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch â ni.

© Parc Gwledig Margam