Hepgor gwe-lywio

Yr Ystlumod a'r Tŷ Sitrws

Yr Ystlumod a'r Tŷ Sitrws

MAE PARC GWLEDIG MARGAM YN LLAWN O YSTLUMOD:

Mae gan yr ystlumod lleiaf gytrefi mamolaeth yn yr Orendy gerllaw, mae ystlumod y dŵr mewn coeden gerllaw, ystlumod hirglust yn yr Abaty a cheir rhywogaethau'r ystlumod pedol lleiaf, ystlumod lleiaf Nathusius a Myotis mewn safleoedd eraill yn y parcdir a'r adeiladau cyfagos. Yn wir, ychydig iawn o adeiladau yn y parc sydd heb gofnod o ystlumod yn clwydo.

Gan fod angen gwaith adeiladu helaeth wrth adfer y Tŷ Sitrws a’r Tŷ Tyfu hanesyddol, cytunwyd ar strategaeth i gynnwys ystod o addasiadau penodol ar gyfer ystlumod yn y gwaith adnewyddu. Gwnaeth y rhain wella'r adeilad, gan ddenu ystlumod i glwydo ynddo.

Dyma oedd y gwelliannau:

  • Cafodd mannau i ystlumod glwydo o fewn y waliau eu creu a'u gwella.
  • Gosodwyd y boeler ar gyfer gwresogi’r Tŷ Sitrws yn y storfa afalau (wrth ymyl y tŷ tyfu). Byddai'r gwres o hwn yn gwneud yr adeilad yn fwy atyniadol i ystlumod.
  • Gosodwyd ffelt o dan do’r storfa afalau a’r storfa ganolog i greu gwagle a fyddai'n addas ar gyfer rhywogaethau sy’n clwydo mewn holltau.
  • Tynnwyd cerrig o’r gwahanfur rhwng y cyntedd canolog a'r storfa ganolog er mwyn caniatáu tramwyfa i’r ystlumod; bydd hyn yn sicrhau bod ystlumod yn gallu symud yn rhydd.
  • Mae agorfeydd yn y nenfwd yn cael eu cau a'u cloi, i atal aflonyddu/golau/drafft oddi isod.
  • Caewyd y bondo yn rhannol ar y wal flaen (prennau pontio) gan adael bylchau i’r ystlumod allu cropian i mewn trwyddynt.
  • Cafodd y gwagle yn y nenfwd uwchben y boeler ei wella ar gyfer rhywogaethau sy’n clwydo mewn holltau a chroglofftydd.
  • Un gwelliant oedd cau mynedfa’r groglofft gyda phanel er mwyn arafu llif yr aer drwyddi. Yn benodol, darparwyd mynedfa siap blwch llythyrau y gallai’r ystlumod pedol a'r ystlumod clustiog hedfan drwyddi.
© Parc Gwledig Margam