Hepgor gwe-lywio

'Homage to Chernobyl' gan Paul Bothwell Kincaid

Wedi'i gerfio o dywodfaen coch 

Ym 1985 ffrwydrodd adweithydd niwclear yn Chernobyl yn Rwsia, a bu canlyniadau dinistriol. Tywalltodd cwmwl gwenwynig o nwy ymbelydrol allan ohono i'r dref a'r ardal wledig o’i gwmpas, gan gyrraedd mor bell â Gogledd Cymru yn y pen draw. Roedd y difrod dynol ac amgylcheddol a achoswyd o ganlyniad i hyn yn enfawr, ac mae'n dal i effeithio ar y rheini a ddaeth i gysylltiad â'r nwy ymbelydrol. Mae ffurf y cerflun yn dangos sut mae'r ymbelydredd a ollyngwyd o graidd yr adweithydd wedi newid bywydau ac amgylcheddau. Mae ei leoliad yn y Parc yn ein hatgoffa ni i gyd fod yn rhaid i ni feithrin a thrysori’n hamgylchedd naturiol neu fel arall bydd yn dod yn anadnabyddadwy ac anghynaladwy. Mae bwâu toredig a gweddillion yr Abaty fel y Cabidyldy yn drosiad ar gyfer pydredd ac esgeulustod, a sut y mae angen i ni drysori a meithrin ein hamgylchedd yn ogystal â'i wella a'i foderneiddio.

Mae'r cerflun hwn ger adfeilion Yr Abaty a'r Cabidyldy.

© Parc Gwledig Margam