Cwm Phillip
Mae'r nant hon yn llifo ar hyd waelod Cwm Phillip. Mae coetir
cymysg ar un ochr i'r cwm, ac mae rhedyn yn gorchuddio'r ochr
arall. Mae'n gynefin gwych i lawer o famaliaid bach, sy'n llunio
rhwydwaith o dwneli o dan y llystyfiant. Yn aml gwelir adar
ysglyfaethus yn hela ar hyd y llechweddau.