Teithiau Cerdded
Mae 800 erw Parc Margam yn darparu'r lleoliad perffaith ar gyfer cerdded yng nghefn gwlad. Gallwch fynd am dro ar ôl cinio dydd Sul neu heicio ar hyd Ffordd Coed Morgannwg i Barc Gwledig Parc Fforest Afan, ein parc gwledig cyfatebol yng Nghwm Afan.

Mae croeso i chi grwydro ac archwilio ein parc. Os yw'n well gennych ddilyn llwybr tywysedig mae pedwar opsiwn ar gael. Mae pob un â chôd lliw gwahanol ac yn dechrau nid nepell o'r ganolfan ymwelwyr.
Llwybr y Pulpud
Cyfeirbwynt glas 2.25 milltir. Rhai mannau serth
Bydd y llwybr hwn yn eich tywys at bwynt gweld y pulpud, mae'r olygfa o'r fan hon yn werth y dringo serth, ar ddiwrnod clir gellir gweld caeau a phentrefi Gogledd Gwlad yr Haf yn glir.
Llwybr y Mynachaidd
Cyfeirbwynt Piws 2.5 milltir. Rhai mannau serth
Mae'r llwybr hwn yn eich tywys o amgylch cefn caer yr oes haearn ac yna i fyny at weddillion yr Hen Eglwys. Byddwch yn pasio Llyn Pysgod ar y daith gerdded hon felly cofiwch ddod â bara i fwydo'r hwyaid!
Llwybr Cwm Philip
Cyfeirbwynt Gwyrdd3.5 milltir. Dim ond ar gyfer pobl heini
Bydd y llwybr hwn yn eich tywys ar hyd ochr Cwm Philip. Mae'n dilyn y llwybr hyd at bwynt uchaf y parc ac yn disgyn drwy gwm coediog ar draws y ddaear isel.
Llwybr Craig-y-lodge
Cyfeirbwynt Coch 1.5 milltir. Llwybr tonnog, hawdd
Llwybr pleserus drwy ardaloedd isel y parc.
Ar bob llwybr byddwch yn gweld rhai o geirw Margam yn enwedig ar y llwybrau Pulpud a Chraig-y-lodge.
Mae llyfryn ar gael o giosg y fynedfa ac yn y siop, sy'n rhoi esboniad o'r hyn sydd i'w weld wrth i chi gerdded ar hyd y llwybrau
Ffordd Coed Morgannwg
36 milltir: Parc Margam - Aberdâr - Merthyr
Mae Ffordd Coed Morgannwg yn daith gerdded ddramatig 36 milltir (58km) gyda'r daith gyfan bron yn croesi bryniau'r Comisiwn Coedwigaeth a pharc Parc Fforest Afan.
Mae'n dilyn llwybrau hynafol o darddiad Celtaidd ac yn pasio nifer o aneddiadau yr Oes Efydd a Haearn. Ar hyd y daith ceir nifer o fannau gwylio ardderchog gyda golygfeydd o Fannau Brycheiniog a Môr Hafren. Yr uchaf o'r rhain yw ger Craig-y-Llyn, sydd 1968 troedfedd (600m) uwchben lefel y môr.
Gellir cerdded y daith gyfan mewn tua 16 awr, gan ddechrau naill ai o Barc Coetir Gethin yn y gogledd (lle mae'n cysylltu â Llwybr Taff) neu Barc Gwledig Margam yn y de lle mae'n cysylltu â Thaith Gerddded Cefnffordd Ogwr. Gelir cerdded adrannau llai hefyd o Parc Fforest Afan neu o barc Gwledig Cwm Dâr neu o un o feysydd parcio'r Comisiwn Coedwigaeth ar hyd y daith.
Ffordd Cefnffordd Ogwr
13 milltir: Parc Margam - Mynydd y Gaer
Mae Taith Gerdded Cefnffordd Ogwr yn daith hyfryd 13 milltir (21km) sy'n cysylltu Ffordd Coed Morgannwg yn y gorllewin ac yn parhau fel taith gerdded Ffordd-y-Bryniau (Cefnffordd Taf Elai) yn y dwyrain.
Gellir ei cherdded mewn diwrnod neu mewn darnau byrrach o barc Gwledig Bryngarw neu o un o'r ddau faes parcio ar hyd y daith.
Ceir golygfeydd godidog o'r Cymoedd a Bro Morgannwg ar hyd y daith ac ar ddiwrnodau clir gellir gweld bryniau Dyfnaint a Gwlad yr Haf.
Gellir gweld tirluniau coediog hyfryd hefyd ger Coytrahen a Blackmill. Ceir ystod eang o ddiddordebau hanesyddol ac archaeolegol ar hyd y daith gan gynnwys tomenni claddu yr Oes Efydd ar Mynydd-y-Gaer, a hen draphont y rheilffordd yn Blackmill sy'n dyddio'n ôl i 1876.
Ac eithrio'r hawliau tramwy, mae'r llwybrau cerdded yn ganiataol, cedwir yr hawl gan y parc i'w cau yn achlysurol.