Hepgor gwe-lywio

Cronoleg o Ddigwyddiadau Pwysig

Yr Oes Efydd a Haearn ac Oes y Rhufeiniaid

Roedd dyn y cyfnod Efydd wedi ymgartrefu a dechrau ffermio ar Fynydd Margam a cheir nifer o bentyrrau claddu yn bodoli yng Ngogledd a Dwyrain y parc.

Caer yr Oes Haearn, ardal o tua saith erw wedi'i hamgáu gan fanc enfawr, gyda ffens pren yn ei gorchuddio, ac mae ffos a banc llai arall wedi'u sefydlu ar Fynydd-y-castell.

Ceir tystiolaeth o breswylwyr Rhufeinig a phreswylwyr Cristnogol cynnar gan nifer o gerrig, sy'n cynnwys carreg filltir Rufeinig, sydd nawr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, sy'n arddangos enw'r Ymerawdwr Postumus (258-67), carreg Bodvoc a chroesau cerrig Celtaidd diweddarach.

Y Cyfnod Mynachaidd 1147 - 1536

Blwyddyn Digwyddiad

1147 - Sefydlu Abaty Sistersaidd Margam.

1200 - Adeiladu'r Ty Siapter deuddeg ochr. Y Mynaich Gwyn yn hela am geirw gwyllt a chloddio am lo.

1349 - y Pla Du yn cyrraedd Margam a nifer y brodyr lleyg yn lleihau.

1400s - eglwys adfeiliedig Capel Cryke, Hen Eglwys, yn cael ei sefydlu i wasanaethu anghenion y werin leol a iwmyn nad oedd hawl ganddynt i addoli yn yr Abaty ei hun.

1536 - Dim ond naw mynach yn weddill yn yr Abaty.

Cyfnod Mansel 1536 - 1750

Blwyddyn Digwyddiad

1537 - Diddymu'r sefydliad mynachaidd gan Ymwelwyr Coron Harri'r VIII.

1540 - Prynwyd yr Abaty gan Syr Rice Mansel(1487-1559) o Gastell Oxwich, Penrhyn Gwyr a'r Hen Bewpyr, Bro Morgannwg.

Adeiladwyd y plasty Tuduraidd ar gyn ystodion mynachaidd yr Abaty, addaswyd, gwellwyd ac estynnwyd adeiladau cerrig yr Abaty dros gyfnod o ddau gan mlynedd.

Ailwampiwyd y ty yn hwyr yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan Syr Thomas Mansel.

1611 - Syr Thomas Mansel yn cael ei urddo'n Farwnig pan greodd Jâms y Iaf yr Urdd Etifeddol.

1661 - Y cyfeiriad cyntaf at y gerddi oherwydd nodwyd yn y cyfrifon bod garddwr, John Thomas, a cheir cyfeiriadau at waliau a gerddi amrywiol.

1711 - Dyrchafwyd Syr Thomas Mansel, a oedd yn Rheolwr Ty'r Frenhines Anne, i'r arglwyddiaeth fel Barwn Mansel o Fargam.

1723 - Bu farw'r Arglwydd Thomas Mansel.

1727 - Lluniodd Joseph Kirkman, garddwr Margam, gatalog o blanhigion tai gwydr yn yr ardd sef y rhestr fanwl gynharaf o goed oren ym Margam a oedd wedi goroesi, y cofnod cynt oedd llyfr cyfrifon y ty o 1711.

Cyfnod Talbot 1750 - 1941

Blwyddyn Digwyddiad

1750 - Bu farw Bussy Mansel, y pedwerydd Barwn a'r olaf heb etifedd gwrywaidd. Daeth y teitl i ben gyda Margam, Oxwich a Phen-rhys yn trosglwyddo drwy briodas i'r teulu Talbot ac i'r Parchedig Thomas Talbot o Abaty Lacock, Wiltshire. Mwynhaodd ei etifeddiaeth am nifer fach o flynyddoedd gyda Margam yn cael ei drosglwyddo i'w fab, Thomas Mansel Talbot.

1768 - Thomas Mansel Talbot yn cychwyn ar Daith Fawr o'r Cyfandir, rhan dderbyniol o addysg dyn y ddeunawfed ganrif, gan ddychwelyd adref yn 1772 i'r Stad ym Mhen-rhys, Gwyr i adeiladu ei fila newydd yno. Dim ond pan oedd bron wedi'i gwblhau y trodd ei sylw at adnewyddu Margam.

1786 - Dechrau gwaith ar adeiladu'r Orendy i ddyluniad Anthony Keck.

1792 - Is-iarll Torrington yn adrodd gydag arswyd bod y ty siapter nawr yn gartref i geirw - cwympodd y to yn 1799 gyda darn o bensaernïaeth o'r Oesoedd canol wedi'i ddifetha.

Cwblhau'r Orendy.

1793 - Roedd cyfrifon y stad yn nodi bod y Ty Tuduraidd dadfeiliedig wedi'i ddymchwel o'r diwedd gan Thomas Mansel Talbot, a oedd nawr yn preswylio yn ei fila newydd ym Mhen-rhys. Pan fyddai'r teulu'n ymweld â'r Orendy a'r Gerddi byddent yn preswylio ym Mwthyn Margam ar gyrion y Parc.

1794 - Cafodd y gerddi eu ffensio i gadw'r ceirw allan a chynhyrchwyd mynedfa o bileri cerrig a gatiau gwledig.

1800 - Codwyd y Ty Sitrws yn gartref i rai o gasgliadau enwocaf y coed sitrws.

1802 - Yr Arglwydd Nelson, yn teithio drwy Dde Cymru gyda Syr William a'r Foneddiges Hamilton, yn ymweld â'r Orendy gan roi tip o dri swllt i'r garddwr a wnaeth eu tywys hwy o amgylch.

1814 - Mae map o'r stad yn dangos bod Talbot wedi cyflawni ei nod o greu Parc oherwydd mae'n dangos yr ardaloedd gwahanol o'r enw 'Parciau 'Mawr', 'Bach' ac 'Uwch'

1820s - Comisiynwyd cynlluniau i adeiladu ty newydd ym Margam gan Christopher (Kit) Rice Mansel Talbot (1803 - 90), mab Thomas Mansel Talbot, a oedd â syniadau rhamantaidd ynghylch y Parc, ei hanes a'r arddull yr oedd ef eisiau ar gyfer y ty.

1830 - Gwaith yn dechrau ar adeiladu Castell Margam, strafagansa ramantaidd a ddyluniwyd gan Thomas Hopper (1776-1856). Edward Haycock (1790-1870) o Amwythig oedd y pensaer goruchwyliol yn ystod y cyfnod hwn ac roedd hefyd yn gyfrifol am beth gwaith mewnol ac allanol ar y ty, y stablau, y terasau a'r porthdai. Ymddiddorai Talbot yn fawr yn y gwaith a goruchwyliodd y costau'n ofalus.

1837 - Mae'r ffasâd cerrig hanesyddol a briodolir i Inigo Jones, Teml y Pedwar Tymor, yn cael ei ail-godi i wynebu ty'r garddwr, Bwthyn Iorwg - yr wyneb hwn yw'r unig beth sy'n weddill o'r ty gwledda o'r ail ganrif ar bymtheg.

Adeiladwyd tramwyfa Orllewinol, gan gynnwys y bont ar ochr ogleddol y llyn pwll pysgod. Hefyd mae'n debygol ar yr adeg hwn i bileri'r gatiau gael eu symud o'r gerddi i'w safle gweddol od nawr wrth y fynedfa orllewinol.

1840 - Gorffen adeiladu'r Castell a gwaith ar y stablau a'r llibartiau ar y gweill.

Adeiladu'r prif dramwyfa o'r dwyrain gan C.R.M. Talbot.

Dechrau adeiladu'r Porthdai Dwyreiniol a ddyluniwyd gan Edward
Haycock, ynghyd â'r Porthdy Canol a'r Porthdy Gorllewinol, a ddymchwelwyd yn 1975 i wneud lle ar gyfer traffordd yr M4.

1841 - Cronnwyd y cwm corslyd i'r gogledd o'r gerddi i ffurfio'r llyn pwll pysgod presennol, y dwr a ddefnyddiwyd i gyflenwi'r ffynhonnau ar Deras yr Orendy.

Estynwyd cornel orllewinol y parc i gynnwys y rhan fwyaf o'r brif ffordd a phentref Margam; adeiladwyd pentref newydd y Groes ar yr un adeg, wedi'i dylunio gan Haycock, ond fe'i dymchwelwyd hefyd ar gyfer traffordd yr M4.

1852 - Adeiladu teras yr Orendy.

Bu Henry Fox Talbot, y ffotograffydd arloesol ac ymwelydd rheolaidd â
Margam yn y cyfnod hwn, yn gwneud nifer o arbrofion cynnar yng ngerddi Castell Margam ac fe lwyddodd i gymryd y golygfeydd ffotograffig cynharaf o'r plasty.

1876 - Bu farw unig fab Christopher R.M. Talbot o ganlyniad i ddamwain farchogaeth.

1881 - Ymwelodd Tywysog a Thywysoges Cymru, yn ddiweddarach Edward VII a'r Frenhines Alecsandra, â Margam ddydd Llun 17 Hydref 1881.

Arhosodd y pâr am ginio ac wedi hynny fe blannodd y Tywysog goeden yng Ngerddi'r Orendy.

1890 - Etifeddwyd Margam gan Emily Charlotte Talbot. Adeiladwyd y Ty^ Gwinwydd ac ailosodwyd y rhan fwyaf o'r tai gwydr gan rai newydd gan Messenger & Co. o Loughborough, sydd oll wedi diflannu ac eithrio un bach y tu ôl i'r Ty^ Sitrws.

Adeiladwyd y Cwt Injans.

1891 - Cyflwynwyd trydan i'r Castell.

1892 - Yn y Castell, adeiladwyd Ystafell Filiards dros libart bach mewnol. Adeiladwyd Ty^ Twyn-yr-Hydd, gyda cholofnau o gerrig garw ar wahân fel mynedfa, yn gartref i asiant Emily Charlotte Talbot sef Edward Knox.

1902 - Crëwyd gardd bambw^ dan y llyn a chyflwynwyd Pergola i ran de-orllewinol o ardd yr Orendy gan Emily Charlotte Talbot.

1918 - Bu farw Emily Charlotte Talbot a rhoddwyd Margam mewn ymddiriedolaeth i'w gor-nai, plentyn dan oed. Roedd tad John Theodore Talbot Fletcher sef Capten Andrew Mansel Talbot Fletcher yn arddwr brwd ac fe gynorthwyodd i ariannu teithiau chwilio am blanhigion Frank Kingdom Ward. Fe gyflwynodd rai rhododendronau ac asaleas i'w plannu ym Margam, y mae nifer ohonynt yn dal i flodeuo.

1926 - Crëwyd Llyn newydd gan Gapten Fletcher i ysgafnhau diweithdra a gwella'r olygfa o'r ty^.

1930 - Capten Fletcher yn newid yr hen floc stablau'n gwrt sboncen ac yn garej, ac yn creu cwrt tennis ar ochr de-ddwyreiniol y Castell.

Blynyddoedd y Rhyfel a Syr David Evans-Bevan

Blwyddyn Digwyddiad

1941 - Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu milwyr yn lletya yng Nghastell Margam, hyd yn oed pan oedd teulu Fletcher yn dal i fyw yno
Penderfynodd ymddiriedolwyr stad Margam werthu'r Stad gyda'r Capten a Mrs Fletcher yn dychwelyd i Neuadd Saltoun, East Lothian. Arwerthwyd cynnwys y Ty^ gan Christies o Lundain mewn arwerthiant pedwar diwrnod rhwng 27 a 30 Hydref 1941.

Parhaodd y lluoedd Prydeinig ac Americanaidd i feddiannu'r Castell yn ystod blynyddoedd y rhyfel.

1942 - Prynwyd y stad gan Mr D.M. (yn ddiweddarach Syr David) Evans-Bevan, perchennog Bragdy Cwm Nedd.

Ar ddiwedd y rhyfel, yn dilyn y dadatafaelu, roedd y Castell yn wag, ac roedd y teulu'n preswylio yn Nhwyn yr Hydd. Bu'n destun fandaliaeth, lladrata a dirywiad.

1950s - Syr David Evans-Bevan yn comisiynu'r dyluniwr tirlunio Ralph Hancock i ailddylunio gerddi Twyn yr Hydd a oedd yn cynnwys waliau newydd a ha-ha, planhigion dringo, pum bloc hirsgwar o binwydd, a blannwyd gan Syr David Evans-Bevan ar lethr isaf Craig y Lodge.

Blynyddoedd y Cyngor Sir

Blwyddyn Digwyddiad

1973 - Prynwyd y stad ym mis Gorffennaf gan Gyngor Sir Morgannwg.

1974 - Pan ad-drefnwyd Llywodraeth Leol ym mis Ebrill trosglwyddwyd y Stad i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg a ddechreuodd ar raglen o ailddodrefnu ac agor y lle i'r cyhoedd.

1977 - Gorffennwyd adnewyddu'r Orendy ac fe'i agorwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn ystod ei Jiwbilî Arian ym mis Mehefin 1977.

Ceir mynedfeydd modern a adeiladwyd i'r gorllewin o'r A48 ac i'r dde o borthdai'r dwyrain, y ddau gydag ardaloedd parcio tarmac. Mae cloddio archeolegol o ardd y gegin yng nghefn y Ty^ Sitrws yn dangos sylfeini bythynnod a Thafarn y Ty^ Cornel yn hen bentref Margam, yn ogystal â sylfeini canolfan o'r Canol Oesoedd. Dangosodd cloddio pellach o faes parcio'r Orendy presennol weddillion waliau colofnresog, mynedfeydd a llynnoedd mawr.

Ar ddydd Mawrth 4 Awst am 10a.m. torrodd tân allan yn y Castell gan ddymchwel y to a dinistrio'r tu mewn.

1978 - Cludwyd Gwartheg Morgannwg i'r Stad o Sussex.

1981 - Ar 29 Gorffennaf gosodwyd tusw o flodau coed orennau o Barc Margam ar goetsh y briodferch a'r priodfab ar gyfer priodas Ei Fawrhydi Tywysog Cymru a'r Foneddiges Diana Spencer.

1982 - Ail-osodwyd to Adain Ogleddol y Castell a'r gwaith yn parhau i sefydlogi a chryfhau strwythur yr adeiniau de a gorllewinol.

1983 - Dechreuwyd ar gam cyntaf y cynllun achub ar gyfer y Castell ac mae trydan yn cael ei gyflwyno am yr ail waith yn ei hanes.

1985 - Staff y parc yn symud i'r swyddfeydd ar lawr cyntaf yr Adain Ogleddol.

Mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Cerfluniau Cymru, sefydlwyd y parc cerflun cyntaf yng Nghymru gyda cherflunwyr rhyngwladol enwog fel Henry Moore, Barbara Hepworth ac Elizabeth Frink yn arddangos eu gwaith.

1986 - Gwneud gwaith adnewyddu ar y Ty^ Siapter a'r Cyntedd.

1987 - Tynnwyd daguerroteip prin y Castell o'r de-ddwyrain gan ffrind mawr C.R.M. Talbot, y Parchedig Calvert Jones o Abertawe a'i werthu gan ddisgynyddion Talbot yn Christies i oriel Americanaidd. Mae'r llun unigryw hwn, y llun cynharaf o'r Castell mae'n debyg ac un o'r ffotograffau cyntaf i'w cymryd yng Nghymru, wedi'i gadw'n ffodus oherwydd gwrthod trwydded allforio ac fe'i prynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

1995 - Gwaith adfer pellach wedi'i gwblhau, ail-osod to yr Adain Ddeheuol a'r Adain Orllewinol a pheth gwaith mewnol. Bu farw John Talbot Fletcher, perchennog olaf y stad gyfan.

1996 - Cynhelir gwasanaeth ar 1af Mawrth gan Esgob Llandaf i goffáu'r gwaith adfer hyd yn hyn. Yn Ebrill, Ad-drefnu Llywodraeth Leol, Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg yn darfod a Pharc Margam yn dod yn gyfrifoldeb i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot sy'n parhau â'r ymrwymiad i adfer.

1999 - Ail-ddodrefnu Adain Ogleddol y Castell er mwyn ei defnyddio at bwrpas addysgol gan y Cyngor Astudiaethau Maes.

Y Ty^ Sitrws yn dod yn gartref i gasgliad enfawr o Ffiwsias.

Yr Unfed Ganrif ar Hugain

Blwyddyn Digwyddiad

2001 - Dechrau ar waith adfer y gerddi ar ddiwedd mis Ionawr:-
Adfer y gerddi tu ôl i'r Ty^ Sitrws fel gardd ffrwythau â mur o'i chwmpas a chreu gardd lwyd, gardd addurnol a gardd berlysiau mynachaidd.

Ailosod y saith gwely ar deras y castell ac adfer teras yr Orendy.

Diweddarwyd y llwybrau cerdded ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

Ailosod lle chwarae antur y plant ger y llyn.

Cam un o'r rheilffordd gul wedi'i gwblhau yn hwyr yn yr hydref.

Trefnwyd i'r gwaith ddechrau ar ailosod y Ty^ Gwinwydd Fictoraidd 19eg Ganrif.

2002 - … ac mae'r adfer yn parhau